Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1997;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo yn yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;
(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
| Eiddo | Deiliadaeth (a'r rhif teitl os yw'n gymwys) |
|---|---|
| Ysbyty | |
| Wardiau Afallon ac Enlli, Ysbyty Cyffredinol Bronglais | Lesddaliad |
| Bryngofal, Ysbyty'r Tywysog Philip | Rhydd-ddaliad (WA253967) |
| Canolfan Adnoddau Dinbych-y-pysgod (y safle newydd) | Rhydd-ddaliad (CYM180478) Rhydd-ddaliad (CYM19713) |
| Canolfan Gwennog, Canolfan Gwili a Llys Myddfai, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru gan gynnwys tir y tu cefn | Rhydd-ddaliad (WA857214) |
| Caebryn (Ysbyty Dydd Brynhaul, Ward Bryntawel a Ward Bryngolau), Ysbyty'r Tywysog Philip | Lesddaliad |
| Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin | Rhydd-ddaliad (WA899753) |
| Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro | Rhydd-ddaliad (WA633274) Rhydd-ddaliad (WA587373) |
| Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd | Rhydd-ddaliad (WA633313) Rhydd-ddaliad (CYM176034) |
| Canolfannau Iechyd | |
| Canolfan Iechyd Crymych | Rhydd-ddaliad (WA632581) |
| Canolfan Iechyd Abergwaun | Rhydd-ddaliad (WA633349) |
| Canolfan Iechyd Hakin, Aberdaugleddau | Rhydd-ddaliad (WA633327) |
| Canolfan Gofal Iechyd Hwlffordd | Rhydd-ddaliad (WA633330) |
| Canolfan Gofal Iechyd Aberdaugleddau | Rhydd-ddaliad (WA633330) |
| Canolfan Iechyd Arberth | Lesddaliad |
| Canolfan Iechyd Neyland | Rhydd-ddaliad (WA633323) |
| Canolfan Iechyd Doc Penfro | Rhydd-ddaliad (WA641351) |
| Clinigau | |
| Clinig Brynmair, Heol Goring, Llanelli | Rhydd-ddaliad (WA834631) |
| Llys Steffan, Llanbedr Pont Steffan (Clinig Llanbedr Pont Steffan) | Lesddaliad |
| Clinig Elizabeth Williams, Llanelli | Lesddaliad |
| Iechyd Meddwl | |
| Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Hafan Hedd, Castellnewydd Emlyn | Rhydd-ddaliad (WA731941) |
| Amrywiol | |
| Ysbyty Dydd Bro Cerwen a Sant Brynach, Hwlffordd | Rhydd-ddaliad (WA633315) Rhydd-ddaliad (WA830438) |
| Uned Asesu Bro Myrddin, Caerfyrddin | Rhydd-ddaliad (WA851547) |
| 4, 8 a 9 Bryngolau, Llanelli | Lesddaliad |
| Swyddfeydd Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Capel Road, Llanelli | Rhydd-ddaliad (WA834622) |
| Carmel a Phentargon, Dewi Sant, Caerfyrddin | Rhydd-ddaliad (WA899753) |
| Cartrefle, Llanybydder | Rhydd-ddaliad (WA834623) |
| 10, Church Close, Begeli, Cilgeti | Lesddaliad |
| Yr Hufenfa, Llangadog | Lesddaliad |
| Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Ceredigion, Aberaeron | Lesddaliad |
| Derwen Gardens, Castellnewydd Emlyn | Lesddaliad |
| Europa House, Charles Street, Aberdaugleddau | Lesddaliad |
| 13, Heol Goring, Llanelli | Rhydd-ddaliad (WA502646) |
| Ysbyty Dydd Gorwelion, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA723066) |
| 7a, Y Stryd Fawr, Aberystwyth | Lesddaliad |
| Haverfordia House, Hwlffordd | Lesddaliad |
| Llys Meddyg ac Ael-y-bryn, Dewi Sant, Caerfyrddin | Lesddaliad |
| Ysbyty Dydd Tŷ Helyg, Bronglais, Aberystwyth | Rhydd-ddaliad (WA498237) |
| Pen-lan, Caerfyrddin | Rhydd-ddaliad (WA913160) |
| Bloc Dewi Sant 18, Adran Ystadau, Caerfyrddin | Lesddaliad |
| Ysbyty Dydd Sŵn-y-gwynt, Rhydaman | Rhydd-ddaliad (WA544537) |
| Tir-y-garreg, Cydweli | Rhydd-ddaliad (WA452133) |
| Canolfan Adnoddau Wellfield, Caerfyrddin | Rhydd-ddaliad (WA834626) |
| Canolfan Adnoddau Hendy-gwyn ar Daf, Hendy-gwyn ar Daf | Lesddaliad |
| Cartref Home, Rhydaman | |
| 3 Derwen Deg, Porthyrhyd | Lesddaliad |
| Glancleddau, Aberdaugleddau | Lesddaliad |
| 2 Cwrt Greville, Doc Penfro | Lesddaliad |