Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
2. Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Sefydlu) 1998(3), ac yn unol â hynny dirymir y Gorchymyn hwnnw.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda ar 1 Ebrill 2008.