YR ATODLEN continued RHAN 4
15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—
(a) i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i'ch awdurdod; neu
(b) i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny'n ddiweddarach),
gofrestru eich buddiannau ariannol a'ch buddiannau eraill, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a) yng nghofrestr eich awdurdod a gedwir o dan adran 81(1) o Deddf Llywodraeth Leol 2000, drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(2) Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd neu o newid i unrhyw fuddiant personol a gofrestrwyd o dan is-baragraff (1), gofrestru'r buddiant personol newydd hwnnw neu'r newid drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(3) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).
(4) Ni fydd is-baragraff (1) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o'r fath.
16.—(1) Os byddwch yn ystyried bod yr wybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw un neu rai o'ch buddiannau personol yn wybodaeth sensitif, a bod swyddog monitro eich awdurdod yn cytuno, nid oes angen i chi gynnwys yr wybodaeth honno pan fyddwch yn cofrestru'r buddiant hwnnw, neu, yn ôl y digwydd, newid i'r buddiant o dan baragraff 15.
(2) Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy'n golygu nad yw gwybodaeth sydd wedi ei heithrio o dan is-baragraff (1) mwyach yn wybodaeth sensitif, hysbysu swyddog monitro eich awdurdod gan ofyn am i'r wybodaeth gael ei chynnwys yng nghofrestr buddiannau aelodau eich awdurdod.
(3) Yn y cod hwn, ystyr “gwybodaeth sensitif” (“sensitive information”) yw gwybodaeth y mae ei rhoi ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn creu, neu'n debygol o greu, risg ddifrifol y gallech chi neu berson sy'n byw gyda chi fod yn destun trais neu fygythion.
17. Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i chi gael unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol, sy'n fwy na gwerth a bennir mewn penderfyniad gan eich awdurdod, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod yn nodi bodolaeth a natur y rhodd honno, y lletygarwch hwnnw, y buddiant materol hwnnw neu'r fantais faterol honno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) drwy orchymyn ddyroddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru ei arddel. Trosglwyddir y swyddogaeth hon oddi wrth y Cynulliad i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Awdurdodau perthnasol yng Nghymru at ddibenion y Gorchymyn hwn yw cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Nid yw awdurdodau heddlu'n awdurdodau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn.
Mae'n rhaid i god ymddygiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir yn unol ag adran 49(2) o'r Ddeddf a geir ar hyn o bryd yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001. Mae adran 50(3) o'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i Weinidogion Cymru i ddiwygio cod enghreifftiol sydd wedi ei ddyroddi.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ac offerynnau statudol blaenorol sy'n diwygio ac yn dyroddi cod enghreifftiol diwygiedig yn unol ag adran 50(2) a (3) o'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn parhau datgymhwysiad darpariaethau statudol sy'n ymwneud â Chod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol yng Nghymru (ymhlith eraill).
Mae'r cod enghreifftiol diwygiedig yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â dehongli.
Mae Rhan 2 o'r cod enghreifftiol yn darparu ar gyfer darpariaethau cyffredinol y cod enghreifftiol.
Mae Rhan 3 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â buddiannau personol a buddiannau sy'n rhagfarnu ac â datgelu'r cyfryw fuddiannau gan aelodau ac aelodau cyfetholedig ac â chyfrannu gan aelodau ac aelodau cyfetholedig mewn cysylltiad â'r cyfryw fuddiannau.
Mae Rhan 4 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â'r gofrestr fuddiannau, ac â chofrestru rhoddion a lletygarwch.