Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
20 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Mawrth 2008
Yn dod i rym
18 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2), 50(3), 50(4), 50(4E), 81(2), 81(3) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) ac a freiniwyd(2) bellach ynddynt hwy, ac ar ôl gwneud y cyfryw ymgynghoriad ag sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru, a hwythau'n fodlon bod y cod ymddygiad enghreifftiol a ddyroddir o dan adran 50(2) yn gyson â'r egwyddorion a bennir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001(3) a wnaed yn unol ag adran 49(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “aelod” (“member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
3.—(1) Ceir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn god enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau o awdurdod perthnasol ei arddel.
(2) At ddibenion adran 50(4) o'r Ddeddf, mae darpariaethau'r cod enghreifftiol i'w hystyried yn rhai gorfodol.
4.—(1) Os bydd awdurdod perthnasol yn gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, neu'n awdurdod tân ac achub sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os ydynt yn gymwys i'r awdurdod perthnasol—
(a) adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4); a
(b) unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(5).
(2) Os bydd awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os yw'n gymwys i'r awdurdod perthnasol —
(a) paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(6); a
(b) unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Bydd adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978(7) yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu baragraff (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad.
5. Dirymir y gorchmynion canlynol:
(a) Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001(8);
(b) Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004(9); ac
(c) Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004(10).
6. Mae'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn erthygl 5 yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion y canlynol ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol —
(a) ymchwilio i unrhyw honiad ysgrifenedig o dan Ran 3 o'r Ddeddf, pan fo'r honiad hwnnw'n ymwneud ag ymddygiad a ddigwyddodd cyn y dyddiad pryd, yn unol ag adran 51 o'r Ddeddf(11)—
(i) y bydd yr awdurdod perthnasol yn mabwysiadu cod ymddygiad sy'n ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn lle ei god ymddygiad presennol;
(ii) y bydd yr awdurdod perthnasol yn diwygio'i god ymddygiad presennol i ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu
(iii) y bydd darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelodau neu aelodau cyfetholedig o'r awdurdod perthnasol o dan adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno;
(b) dyfarnu (neu benderfynu) ar fater a godir mewn honiad o'r fath; ac
(c) apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau, tribiwnlys achos interim neu dribiwnlys achos mewn perthynas â honiad o'r fath.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2008
1.—(1) Yn y cod hwn —
mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond—
sy'n aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod, neu
sy'n aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,
ac sydd â'r hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;
ystyr “eich awdurdod” (“your authority”) yw'r awdurdod perthnasol yr ydych chi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig ohono;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
cyngor sir,
cyngor bwrdeistref sirol,
cyngor cymuned,
awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(12) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo,
awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(13);
ystyr “cyfarfod” (“meeting”) yw unrhyw gyfarfod —
o'r awdurdod perthnasol,
o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod perthnasol,
o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor o'r fath i unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod, neu
y mae aelodau neu swyddogion yr awdurdod perthnasol yn bresennol ynddo ac eithrio cyfarfod grŵp gwleidyddol a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(14),
ac mae'n cynnwys amgylchiadau pan fo aelod o weithrediaeth neu fwrdd neu swyddog sy'n gweithredu ar ei ben ei hun yn arfer un o swyddogaethau awdurdod; ac
ystyr “chi” (“you”) yw chi fel aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol.
Mewn perthynas â chyngor-cymuned, mae cyfeiriadau at swyddog monitro awdurdod a phwyllgor safonau awdurdod i'w darllen, yn y drefn honno, fel cyfeiriadau at swyddog monitro ac at bwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ganddo swyddogaethau mewn perthynas â'r cyngor cymuned y mae'n gyfrifol amdano o dan adran 56(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
2000 p.22. Diwygir adran 50 gan adran 183 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 50, 81 a 105 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2001/2276 (Cy.166) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214). Back [3]
1972 p.70. Back [4]
1978 p.30. Back [7]
O.S. 2001/2289 (Cy. 177) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/163 (Cy. 18); O.S. 2004/1510 (Cy.159); O.S. 2005/2929 (Cy. 214); ac O.S. 2006/362 (Cy. 48). Back [8]
O.S. 2004/163 (Cy.18). Back [9]
O.S. 2004/1510 (Cy.159). Back [10]
Diwygir adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 gan adran 35 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi a chan adran 183 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007. Back [11]
O.S. 1990/1553 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1389; O.S. 1993/1339; O.S. 1998/1918; ac O.S. 1999/500. Back [14]