Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith, o ran Cymru, Benderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25). Maent yn dirymu ac yn ail ddeddfu Rheoliadau Cynhyrchion Reis (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2006 (O.S.2006/2923 (Cy.260).

Mae'r Rheoliadau hyn—

(1) yn gwahardd rhoi gyntaf ar y farchnad unrhyw “gynnyrch reis” (sy'n cyfateb i'r diffiniad o “rice product” yn rheoliad 2(1)), ac eithrio—

(a) pan fo gydag ef—

(i) datganiad gan weithredydd y busnes bwyd sy'n gyfrifol am y llwyth nad yw'r cynnyrch yn cynnwys dim ond reis, o gynhaeaf 2007 neu gynhaeaf ar ôl hynny, a fu'n ddarostyngedig i gynllun Ffederasiwn Reis UDA sy'n amcanu symud “LL Rice 601” ymaith o sianelau allforio'r UDA, a

(ii) yr adroddiad dadansoddol, yn y gwreiddiol, a ddyroddwyd gan labordy y cyfeirir ato yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn yn cadarnhau nad yw'r cynnyrch yn cynnwys y reis a addaswyd yn enetig “LL RICE 601”; rhaid bod gyda'r adroddiad hwnnw ei hun ddogfen a ddyroddwyd gan Weinyddiaeth Archwiliad, Pacwyr a Stociardiau Grawn Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau yn unol â'r protocol a ddisgrifir yn yr Atodiad hwnnw (rheoliad 3(1)(a)), a

(b) pan gydymffurfir â gofynion penodedig ar gyfer llwythi a holltwyd (rheoliad 3(1)(b));

(2) yn darparu bod person sy'n torri'r gwaharddiad hwnnw gan wybod hynny yn euog o dramgwydd ac yn pennu cosbau ar gyfer y tramgwydd hwnnw (rheoliad 3(2));

(3) yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4); a

(4) yn cymhwyso, gydag addasiadau, darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5).

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.