(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan bwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Yn ddiweddarach cafodd y pwerau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwneud sylwadau ac apelau yn erbyn taliadau ar gyfer symud ymaith, storio a gwaredu cerbyd a symudir ymaith o dan y Ddeddf honno o ardal sydd yn ardal gorfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/614 (Cy.66), Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) a Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/609).
Mae rheoliad 3 yn pennu'r personau y mae'r rheoliad yn gymwys iddynt, yn ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny gael eu hysbysu o'u hawl i wneud sylwadau ac i apelio at ddyfarnydd, mae'n rhoi i'r personau hynny hawl i wneud sylwadau ar ffurf a bennir gan yr awdurdod gorfodi ac yn pennu'r sail y ceir eu gwneud arni. Mae rheoliad 4 yn pennu dyletswyddau awdurdod gorfodi o ran sylwadau sy'n dod i law o dan reoliad 3 ac mae rheoliad 5 yn rhoi hawl i apelio at ddyfarnydd pan fo'r awdurdod gorfodi'n gwrthod sylwadau a gyflwynir iddo o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn cymhwyso'r Atodlen i Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) o ran gweithdrefnau a chyflwyno dogfennau mewn achosion dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 7 yn creu tramgwydd o wneud sylwadau anwir o dan reoliad 4 neu reoliad 5
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm