Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 614 (Cy.66)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 72, 73(3), 79, 88 a 89 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1 RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” ym mharagraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) o ran tâl cosb neu atal cerbyd rhag symud neu symud cerbyd ymaith yw'r awdurdod gorfodi o ran y tramgwydd honedig y codwyd tâl neu yr ataliwyd y cerbyd rhag symud o ganlyniad iddo;

  • ystyr “awdurdodau gorfodi Cymru” (“the Welsh enforcement authorities”) yw'r awdurdodau gorfodi hynny sy'n awdurdodau lleol yng Nghymru;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;

  • mae i “dyfais a gymeradwyir” (“approved device”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 2 o Orchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008(3);

  • ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan reoliad 9 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu

  • dehonglir “dyledus” (“outstanding”) o ran tâl cosb yn unol â pharagraffau (2) i (4);

  • mae i “hysbysiad o dâl cosb” (“penalty charge notice”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4 o Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;

  • “hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb” (“regulation 6 penalty charge notice”) yw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;

  • mae “perchennog” (“owner”) o ran cerbyd yn cynnwys unrhyw berson sydd i'w drin fel perchennog y cerbyd yn rhinwedd rheoliad 4;

  • ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(4);

  • ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008(5);

  • mae i “swyddog gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement officer” yn adran 76 o Ddeddf 2004;

  • ystyr “tâl cosb” (“penalty charge”) yw tâl cosb ynghylch tramgwydd parcio ac sy'n daladwy yn unol â rheoliad 3; ac

  • ystyr “tramgwydd croesfan i gerddwyr” (“pedestrian crossing contravention”) yw tramgwydd parcio sy'n dramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (gwahardd cerbydau rhag stopio ar neu gerllaw croesfannau i gerddwyr).

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn ddyledus o ran cerbyd—

(a) os na chafodd y tâl ei dalu ac nad yw'r awdurdod gorfodi y mae'r tâl yn daladwy iddo wedi hepgor taliad, p'un ai drwy ddiddymu'r hysbysiad o dâl cosb neu hysbysiad i'r perchennog neu fel arall;

(b) os perchennog y cerbyd pan oedd wedi'i atal rhag symud oedd hefyd yn berchennog y cerbyd pan osodwyd y tâl cosb; ac

(c) naill ai—

(i) os cafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglyn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi'u bodloni; neu

(ii) os na chafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglŷn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (4) wedi'u bodloni.

(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i)—

(a) bod y tâl cosb wedi ei osod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan awdurdod gorfodi o ran tramgwydd parcio;

(b) bod y tâl cosb yn destun tystysgrif dâl a gyflwynwyd o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu na chafodd ei roi o'r neilltu yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau hynny.

(4) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii)—

(a) bod y tâl cosb yn ymwneud â cherbyd, a oedd pan ddaeth y tâl cosb yn daladwy—

(i) heb ei gofrestru o dan Ddeddf Tollau a Chofrestru Cerbydau 1994(6); neu

(ii) wedi ei gofrestru, ond heb gynnwys yn y manylion cofrestru enw a chyfeiriad cywir ceidwad y cerbyd;

(b) ar ôl cymryd pob cam rhesymol, nad oedd yr awdurdod gorfodi yr oedd y tâl cosb yn daladwy iddo yn gallu canfod enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd ac o ganlyniad nad oedd yn gallu cyflwyno hysbysiad i'r perchennog o dan hysbysiad rheoliad 11 neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb; ac

(c) bod y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daw'r tâl cosb yn daladwy wedi dod i ben.

(1)

2004 p.18. Diwygiwyd adran 79 gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13), Atodlen 1, paragraff 48 a diwygiwyd adran 81 gan OS 2006/1016. Yn rhinwedd adran 92, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn “awdurdod cenedlaethol priodol” o ran Cymru, at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan Ran 6. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/620 (Cy.69). Back [3]

(4)

O.S. 2008/609. Back [4]

(5)

O.S. 2008/608. Back [5]

(6)

1994 p. 22. Back [6]