Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 613 (Cy.65)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Canllawiau ar LefelauTaliadau) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8 o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 31 Mawrth 2008, ac mae'n gymwys i Gymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn: ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(3).

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008(4).

Canllawiau

2.  Y canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i awdurdodau gorfodi wrth osod lefelau taliadau ar gyfer tramgwyddau parcio yw'r rhai hynny a geir yn yr Atodlen.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2008

Erthygl 2

YR ATODLEN CANLLAWIAU I AWDURDODAU GORFODI WRTH OSOD TALIADAU AM DRAMGWYDDAU PARCIO

Taliadau cosb

1.—(1) Rhaid gosod taliadau cosb ar gyfer tramgwyddau parcio—

(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (2) yn un o'r bandiau yn Nhabl 1; ac

(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (3) yn y band yn Nhabl 1 a ddewisir ar gyfer lefelau uwch o dramgwyddo.

(2) Rhaid gosod y lefel disgownt ar gyfer taliad cosb a delir yn gynnar (hynny yw o fewn 21 o ddiwrnodau yn achos taliadau cosb a osodwyd ar sail cofnod a gynhyrchwyd gan ddyfais a gymeradwyir o dan reoliad 6(1)(a) o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu a 14 o ddiwrnodau ym mhob achos arall)—

(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (4);

(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (5),

yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.

(3) Rhaid gosod lefel gordal taliad o dâl cosb wedi i dystysgrif codi tâl gael ei dyroddi—

(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch ar y lefel a bennir yng ngholofn (6);

(b) ar gyfer pob tramgwydd arall ar y lefel a bennir yng ngholofn (7),

yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.

Tabl 1

(1) (2) (3) (4) (5) (6) (7)
Band Tâl cosb lefel uwch Tâl cosb lefel is Tâl cosb lefel uwch a delir yn gynnar Tâl cosb lefel is a delir yn gynnar Tâl cosb lefel uwch a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl Tâl cosb lefel is a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl
1. £60 £40 £30 £20 £90 £60
2. £70 £50 £35 £25 £105 £75

(4) Caiff awdurdod gorfodi osod taliadau cosb yn unol â gwahanol fandiau yn y tabl mewn gwahanol rannau o'i ardal, cyn belled â bod pob taliad ym mhob rhan o'i ardal yn cael ei osod yn unol â'r un band.

(5) “Tramgwyddau Lefel Uwch” yw'r rhai hynny a restrir yn yr Atodiad.

Taliadau am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau

2.  Y rhai hynny a geir yn nhabl 2 yw'r taliadau y mae'n rhaid eu codi am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau a ganfyddir mewn ardal orfodi sifil.

Tabl 2

(1) (2) (3)
Eitem Math o daliad Swm y taliad
1. Y taliad am symud cerbyd ymaith £105.00
2 Y taliad am storio cerbyd £12 ar gyfer pob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, pan fydd y cerbyd yn cael ei gadw
3. Y taliad am waredu cerbyd £50.00

Rhyddhau cerbyd o afael dyfais i'w rwystro rhag symud o dan Adran 79 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004

3.  Rhaid i'r tâl taladwy o dan reoliad 9(2)(b) o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer rhyddhau cerbyd o afael dyfais i'w rwystro rhag symud fod yn £40.

Arbedion ar gyfer pwerau Gweinidogion Cymru

4.  Nid oes dim yn y canllawiau hyn yn rhagfarnu nac yn effeithio ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ganiatáu i awdurdod gorfodi i wyro oddi wrth y canllawiau hyn.

Atodiad RHESTR O DRAMGWYDDAU LEFEL UWCH

1.  Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) i Atodlen 7 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”)

2.  Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio man a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â'r man parcio yn unrhyw un o'r achosion a ganlyn, neu oddi tano—

(a) heb fod yn dangos permit, taleb neu docyn talu ac arddangos;

(b) mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;

(c) pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;

(ch) pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.

3.  Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.

4.  Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.

5.  Tramgwydd sy'n cynnwys cyflawni trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy'n ymwneud â thraciau beicio).

6.  Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).

7.  Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.

8.  Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau ar arosfannau bysiau neu fannau i fysiau sefyll ynddynt).

9.  Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).

10.  Tramgwydd sy'n ymwneud â throsedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd) ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o'r canlynol yn sgil gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â'r man parcio—

(a) pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;

(b) parcio mewn man cyfyngedig;

(c) parcio mewn man i bermit heb arddangos permit;

(ch) parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;

(d) parcio cerbyd mewn man parcio pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.

(1)

2004 p.18 Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/609. Back [3]

(4)

O.S. 2008/614 (Cy.66). Back [4]