(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a gyflwynodd adroddiad yng Ngorffennaf 2007 ar adolygiad o gymunedau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys. Yn adroddiad y Comisiwn argymhellwyd bod newidiadau'n cael eu gwneud i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Powys a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol, ac mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol yn y trefniadau etholiadol. Ymhellach, mae cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) wedi'u huno ac yn ffurfio cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant a gynrychiolir gan 11 o gynghorwyr cymuned. Mae darpariaeth drosiannol a chanlyniadol wedi'i gwneud mewn cysylltiad â'r cyngor cymuned newydd. Mae darpariaeth ganlyniadol wedi'i gwneud mewn cysylltiad ag adrannau etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Ffurfir adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin o gymunedau Llangedwyn a Llansilin a chymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd. Gelwir adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn Llanwddyn ac fe'i ffurfir o gymunedau Llangynog, Llanwddyn a Phen-y-bont-fawr ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau A i N wedi'u hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn ac ynghylch gweithredu'r gorchmynion hynny.