Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 555 (Cy.55)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

29 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 31a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(a) o Reoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) 2008(2) dileer y geiriau “neu benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff 62 neu 63 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992”.

Jane Hutt

Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”) yn gwneud darpariaeth ynghylch rheolaeth cyrff llywodraethu ar feddiannu a defnyddio mangreoedd ysgol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 er mwyn cywiro gwall ynddynt. Mae rheoliad 10(a) yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2008 yn cynnwys geiriau ychwanegol nas ceir yn nhestun Saesneg rheoliad 10(a). Gan hynny, mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn dileu'r geiriau ychwanegol hynny.

(1)

2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

O.S. 2008/136 (Cy.18). Back [2]