Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 543 (Cy.53)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

28 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Chwefror 2008

Yn dod i rym

24 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008, ac maent yn dod i rym ar 24 Mawrth 2008.

Diwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

2.  Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003(4) fel a ddarperir yn rheoliad 3.

3.  Yn Atodlen 2 yn lle'r geiriau “dim mwy na 0.8 mS/cm” rhodder y canlynol—

  • dim llai na 0.8 mS/cm.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

28 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mêl (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3044 (Cy.288). Maent yn rhoi ar waith y Corigendwm i Gyfarwyddeb y GE 2001/110 a wnaeth gywiro gwall yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno

2.  Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.

(1)

1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [2]

(3)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4. Back [3]

(4)

O.S. 2003/3044 (Cy.288). Back [4]