12.—(1) At ddibenion Atodlen 3A i Ddeddf 1991, ystyr gwaith stryd sylweddol yw gwaith pwysig.
(2) Rhaid i'r cyfnod a ragnodir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno beidio â bod yn llai na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.
(3) Rhaid i'r awdurdod strydoedd perthnasol gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff 2 i'r Atodlen honno ynghylch cyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith stryd sylweddol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
(4) Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd paragraff 2(4) o'r Atodlen honno, rhaid rhoi copi hefyd
(a) i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a
(b) i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.
(5) Rhaid i hysbysiad gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A o waith stryd arfaethedig a chyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar wneud gwaith o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol, neu mewn ffurf gyffelyb iddi, a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth o'r fath sy'n berthnasol i'r hysbysiad neu i'r cyfarwyddyd, yn ôl y digwydd, yn unol â'r fanyleb honno.
(6) Mae darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys i wneud hysbysiad o'r fath yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.
(7) Rhaid rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno drwy ei gyhoeddi ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
(8) Yn ychwanegol at yr achos a bennir ym mharagraff 3(5)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, nid yw paragraff 3(4) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir ym mharagraff (11) isod pan na roddwyd hysbysiad blaenorol o dan adran 54 neu 55, neu baragraff 2(1)(d) o'r Atodlen honno o ran y gwaith y cyfeirir ato.
(9) At ddibenion paragraff 4(4) o'r Atodlen honno, y cyfnod rhagnodedig fydd —
(a) 1 flwyddyn o ran strydoedd sy'n sensitif i draffig a strydoedd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig; a
(b) 6 mis o ran strydoedd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig.
(10) Yn ychwanegol at yr achosion a bennir ym mharagraff 5(2) o'r Atodlen honno, nid yw paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir yn y paragraff canlynol.
(11) Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (8) a (10) yw'r achosion pan fo ymgymerwr yn gwneud gwaith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (12).
(12) Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (11) yw gwaith stryd —
(a) nad yw'n golygu darnio'r stryd;
(b) y mae—
(i) angen ei wneud i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a
(ii) yn cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;
(c) sy'n cael ei wneud —
(i) o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998;
(ii) i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974; neu
(iii) o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno; neu
(ch) y mae ei angen—
(i) i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996; a
(ii) na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.
(13) At ddibenion paragraff 5(3) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.
13.—(1) Esemptir rheolwyr strydoedd rhag darpariaethau adran 53(1).
(2) O ran stryd nad yw'n briffordd a gynhelir —
(a) mae adrannau 53 a 80 a rheoliad 4 i'w haddasu fel mai'r awdurdod priffyrdd lleol fydd yr awdurdod strydoedd at ddibenion y darpariaethau hynny; a
(b) ni fydd adran 61 yn gymwys pan fo'n ofynnol cael cydsyniad i ddarnio'r stryd neu i agor y stryd o dan unrhyw ddeddfiad arall.
14.—(1) Rhaid i awdurdod strydoedd beidio â dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61 oni bai —
(a) bod y stryd yn cyflenwi angen traffig strategol penodol;
(b) bod y stryd yn ddarostyngedig i lif mor uchel a chyson o draffig fel na fyddai ei dynodi yn stryd sy'n sensitif i draffig yn ddigonol i osgoi achosi amhariad difrifol ar draffig gan waith stryd; a
(c) bod yna ddewis amgen rhesymol i osod offer ymgymerwyr y gellid ei osod yn gyfreithlon yn y stryd.
(2) Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o'r fath neu ei thynnu'n ôl yn yr Atodlen.
(3) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd a warchodir gynnwys—
(a) dyddiad y dynodiad;
(b) manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi; ac
(c) manylion am bob cydsyniad i osod offer yn y stryd.
15.—(1) Y meini prawf ar gyfer dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 yw —
(a) yn achos stryd y mae strwythur peirianyddol yn gysylltiedig â hi, fod ei briodoldeb a'i ddiogelwch sylfaenol yn dibynnu ar fod mesurau arbennig yn cael eu cymryd wrth gynllunio a gwneud gwaith stryd yn y rhan berthnasol o'r stryd er mwyn osgoi methiant difrifol o ran y strwythur dan sylw; neu
(b) yn achos unrhyw stryd arall, fod yna nodwedd beirianyddol benodol wedi'i dynodi yn un sylfaenol i strwythur a chyfanrwydd y stryd yn gyfangwbl sy'n ei gwneud yn ofynnol i fesurau arbennig gael eu cymryd wrth gynllunio a gwneud gwaith stryd er mwyn osgoi methiant difrifol o ran y stryd yn ei chyfanrwydd.
(2) Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o'r fath neu ei dynnu'n ôl yn yr Atodlen.
(3) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig gynnwys —
(a) dyddiad y dynodiad;
(b) manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi;
(c) y nodweddion sy'n cyfiawnhau'r dynodiad; ac
(ch) manylion yr awdurdod neu'r ymgymerwr sydd â buddiant yn y stryd.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), dim ond os bodlonir un neu fwy o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64.
(2) Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod y stryd —
(a) yn un y mae'r awdurdod strydoedd yn amcangyfrif fod y llif traffig arni yn fwy na 500 o gerbydau'r awr ar bob lôn o'r gerbytffordd gan anwybyddu lonydd i fysiau neu i feiciau;
(b) yn ffordd ddwyffordd ag iddi un gerbytffordd gyda'r gerbytffordd honno yn llai na 6.5 metr o led, a chyda llif y traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall heb fod yn llai na 600 o gerbydau yr awr;
(c) yn disgyn o fewn ardal a gwmpesir gan Orchymyn o ran taliadau tagfeydd a wnaed o dan adran 169 o Ddeddf Drafnidiaeth 2000(14);
(ch) yn un y mae mwy na 25% o'r llif traffig i'r naill gyfeiriad a'r llall arni yn gerbydau masnachol trymion;
(d) yn un y mae'r llif traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall yn cynnwys mwy nag wyth o fysiau yr awr;
(dd) yn un sydd wedi'i dynodi gan yr awdurdod priffyrdd lleol, fel rhan o'i raglen cynnal a chadw dros y gaeaf, yn un y mae gofyn ei thrin, neu y mae gofyn trin unrhyw ran ohoni, â halen neu gemegau eraill, pan ddisgwylir i'r dymheredd fod yn isel, er mwyn osgoi rhew rhag ffurfio;
(e) o fewn 100 o fetrau i gyffordd â signalau critigol neu i system gylchdro neu gylchfan gritigol;
(f) yn un y mae'r llif traffig o gerddwyr arni yn o leiaf 1300 o bobl yr awr, am bob metr o led y droetffordd; neu
(ff) ar lwybr twristiaid neu mewn ardal lle cynhelir digwyddiadau rhyngwladol, neu genedlaethol, neu ddigwyddiadau mawr arwyddocaol o bwys lleol.
(3) Dim ond ar yr adegau ac ar y dyddiadau pan fo un neu fwy nag un o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) yn gymwys y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig yn unol â pharagraff (1).
(4) Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o dan baragraff (1) neu ar gyfer ei dynnu'n ôl yn yr Atodlen.
(5) Caiff awdurdod strydoedd, er gwaethaf paragraffau (1) i (3), ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig gyda cytundeb mwyafrif yr ymgymerwyr y mae'n hysbys iddo fod ganddynt offer yn y stryd.
(6) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd sy'n sensitif i draffig gynnwys—
(a) dyddiad y dynodiad;
(b) manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi; ac
(c) yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau o'r dydd, y diwrnodau, y cyfnodau neu'r achlysuron pan fo'r dynodiad yn gymwys.
(7) Yn y rheoliad hwn—
mae i “bws” yr un ystyr ag sydd i “bus” yn rheoliad 22(2) o Reoliadau 2002;
mae i'r ymadrodd “cerbyd masnachol trwm” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “heavy commercial vehicle” yn adran 138 o Ddeddf 1984;
ystyr “cyffordd â signalau critigol” (“critical signalised junction”) yw cyffordd â signalau traffig, pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, a phan nad yw'r allanfa wedi'i chau, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig, yn methu mynd drwy'r gyffordd ar y golau gwyrdd cyntaf;
mae i'r ymadroddion “lôn i fysiau” a “lôn i feiciau” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “bus lane” a “cycle lane” yn Rheoliad 4 o Reoliadau 2002;
ystyr “oriau brig” (“peak hour”) yw rhwng 7.30am a 9.30am a rhwng 3.30pm a 7.00pm ar y diwrnod perthnasol; ac
ystyr “system gylchdro neu gylchfan gritigol” (“critical gyratory or roundabout system”) pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig yn cael eu dal yn ôl o fwy na 20 eiliad ar gyfartaledd.
17.—(1) Addesir Adran 70 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) (yn ei gymhwysiad o ran Cymru) fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (3) a (4) yn lle “7” rhodder “10”.
18.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan ymgymerwr i'r awdurdod strydoedd yn unol ag—
(a) adran 70(3) fod gwaith adfer wedi'i gwblhau; neu
(b) adran 70(4A) fod gwaith adfer parhaol wedi'i gwblhau,
roi'r wybodaeth ynglyn â'r gwaith adfer a osodir ym mharagraff (2).
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a) pwynt cyfeiriadol ar gyfer—
(i) canol unrhyw waith adfer nad yw'n hwy na 10 metr o hyd; a
(ii) pob pen i unrhyw waith adfer sy'n hwy na 10 metr o hyd;
(b) mesuriadau'r gwaith adfer;
(c) dyddiad cwblhau'r gwaith adfer; ac
(ch) y dull a ddefnyddiwyd i wneud y gwaith adfer.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “pwynt cyfeiriol” (“reference point”) yw pwynt cyfeiriol grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans wedi'i nodi o fewn un metr.
19. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith stryd yng Nghymru y rhoddodd ymgymerwr hysbysiad ohono o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno ac mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 yn parhau i fod yn effeithiol o ran y gwaith hwnnw megis petaent heb gael eu datgymhwyso.
20. Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008(15).
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
28 Chwefror 2008
O.S. 2008/101 (Cy. 14). Back [15]