Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Erthygl 7

YR ATODLEN Heidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus

Cymhwyso

1.—(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid fridio neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus o 250 o adar o leiaf.

(2) Mae'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid ddodwy neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus onid yw'r holl wyau—

(a) at ddefnydd domestig preifat, neu

(b) wedi'u cyflenwi mewn niferoedd bychain gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu i siopau mânwerthu lleol.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd daliad o'r fath.

(4) Mae pob cyfeiriad yn yr Atodlen hon at adar yn gyfeiriad at adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, ac mae pob cyfeiriad at haid yn gyfeiriad at haid o'r adar hynny.

Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd

2.—(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio o 250 o adar o leiaf gyrraedd y daliad.

(2) Rhaid rhoi'r hysbysiad o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.

Hysbysu o symud heidiau bridio ymlaen i'r cam dodwy

3.  O leiaf ddwy wythnos cyn y disgwylir i haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy, neu i uned ddodwy, rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i'r haid—

(a) symud ymlaen i'r cam dodwy neu'r uned ddodwy; a

(b) cyrraedd diwedd ei gylchred cynhyrchu.

Heidiau bridio: adegau samplu

4.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad—

(a) pan fo'r adar yn gywion;

(b) pan fo'r adar yn bedair wythnos oed;

(c) dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(ch) bob yn ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.

Heidiau dodwy: adegau samplu

5.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid ddodwy ar y daliad—

(a) pan fo'r adar yn gywion;

(b) dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(c) pob 15 wythnos yn ystod y cyfnod dodwy, yn cychwyn pan fo'r adar rhwng 22 a 26 wythnos oed.

Dull samplu cywion

6.—(1) Rhaid i feddiannydd sy'n samplu cywion o dan yr Atodlen hon gymryd—

(a) un leinin blychau cywion neu leinin hambwrdd deorydd ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o bob deorfa, hyd at uchafswm o 10 leinin; a

(b) carcasau pob cyw, hyd at uchafswm o 60, a ddanfonir o bob deorfa sydd wedi marw pan gyrhaeddant y daliad.

(2) Yn y paragraff hwn—

ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch neu gynhwysydd arall y cludir cywion ynddo o'r ddeorfa i'r daliad; ac

ystyr “leinin hambwrdd deorydd” (“hatcher tray liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch, hambwrdd neu gynhwysydd arall y perir gori ar a deor wyau ynddo.

Samplu adar pedair wythnos oed etc.

7.—(1) Rhaid i feddiannydd ddefnyddio'r dulliau a osodir yn y paragraff hwn wrth samplu—

(a) yn achos heidiau bridio, adar pedair wythnos oed; a

(b) yn achos heidiau bridio a heidiau dodwy fel ei gilydd, adar ddwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir hwy i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy.

(2) Rhaid i'r sampl gynnwys—

(a) isafswm o ddau bâr o swabiau o esgidiau; neu

(b) sampl cyfansawdd o ysgarthion.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl cyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n cynnwys o leiaf drigain o samplau gyda phob un yn pwyso dim llai nag 1 gram a phob un wedi ei gymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r haid y cymerwyd ef ohono.

Dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy

8.  Rhaid i samplau a gymerir yn ystod y cyfnod dodwy gael eu cymryd yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 (yn achos haid fridio) neu bwynt 2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (yn achos haid ddodwy).

Cyflwyno samplau i labordy a gymeradwywyd

9.—(1) Rhaid i'r meddiannydd, ar y diwrnod y cymerir sampl o dan y Rheoliadau hyn, ei anfon i labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion ei brofi i ganfod a oes salmonela ynddo.

(2) Rhaid i'r meddiannydd nodi dull adnabod y samplau a rhoi'r wybodaeth a ganlyn—

(a) enw'r meddiannydd;

(b) cyfeiriad y daliad;

(c) mathau'r samplau;

(ch) y dyddiad pan gymerwyd y samplau;

(d) dull adnabod yr haid;

(dd) oed yr haid;

(e) yn achos haid fridio—

(i) ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau haid o fridwyr cig ydyw; a

(ii) statws yr haid yn y pyramid bridio.

Cofnodion samplau

10.—(1) Rhaid i'r meddiannydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cymryd sampl, gofnodi—

(a) y math o sampl a gymerwyd;

(b) y dyddiad pan gymerwyd y sampl;

(c) dull adnabod yr haid y cymerwyd y sampl ohoni;

(ch) oed yr haid a samplwyd;

(d) y labordy yr anfonwyd y sampl iddo.

(2) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi canlyniad pob prawf pan gaiff ef gan y labordy.

Cofnodion symudiadau

11.  Pan symudir adar neu wyau (ac eithrio wyau i'w bwyta gan bobl) i ddaliad neu oddi arno rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a) dyddiad y symud;

(b) ai symud i'r daliad yntau oddi arno oedd y symud;

(c) nifer yr adar neu'r wyau a symudwyd;

(ch) oed yr adar a symudwyd;

(d) yn achos symud haid cyfan, dull adnabod yr haid honno;

(dd) dull adnabod yr adeilad neu'r grŵp o adeiladau y symudwyd yr adar neu'r wyau iddo neu ohono;

(e) cyfeiriad y daliad y daethant ohono neu yr anfonwyd hwy iddo.

Dyletswyddau'r person sydd â gofal labordy

12.—(1) Rhaid i'r person sydd â gofal labordy sy'n cael samplau sicrhau bod y sampl yn cael ei roi mewn oergell a bod yr archwiliad yn dechrau o fewn 48 awr i gael y sampl.

(2) Rhaid i'r person hwnnw baratoi samplo leinin blychau cywion neu o leinin hambwrdd deorydd drwy—

(a) cymryd tamaid o leinin wedi'i faeddu sy'n pwyso o leiaf un gram o bob leinin;

(b) crynsythu ynghyd yr holl ddarnau o lwyth; ac

(c) gosod y deunydd crynswth mewn Dwr Pepton Byfferog (BPW) ar gyfradd o ddim mwy nag 1 gram o leinin i bob 10 ml o BPW.

(3) Ar gyfer heidiau bridio rhaid i'r person hwnnw—

(a) paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005;

(b) paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c) profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(4) Ar gyfer heidiau dodwy rhaid i'r person hwnnw—

(a) paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006;

(b) paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion neu lwch yn unol â 3.1.2 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c) profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(5) Rhaid i'r person hwnnw anfon y canlyniadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol i'r person a gyflwynodd y sampl.