4.—(1) Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—
(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
(b) yn achos sefydlu'r cyfryw ddeorfa ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(4) Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;
(b) cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;
(c) capasiti deor y ddeorfa; ac
(ch) rhywogaeth y dofednod a ddeorwyd yn y ddeorfa.
5. Os yw deorfa yn peri gori ar wyau o rywogaeth Gallus gallus a bod ganddi gapasiti o 1000 o wyau neu fwy, pan symudir wyau neu gywion i'r ddeorfa neu oddi arni rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a) dyddiad y symud;
(b) nifer yr wyau neu'r cywion sy'n cael eu symud;
(c) a yw'r symud i'r ddeorfa neu oddi arni;
(ch) os yw'r symud yn symud oddi ar ddaliad, y daliad cyrchfan; a
(d) yn achos wyau a dducpwyd i'r ddeorfa i beri gori arnynt, y daliad tarddiad.
6.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio neu heidiau dodwy o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—
(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym hwn; neu
(b) yn achos sefydlu'r cyfryw ddaliad ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r daliad gael ei sefydlu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(4) Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a pherchennog pob haid ar y daliad;
(c) nifer yr heidiau ar y daliad;
(ch) ar gyfer pob haid—
(i) dull adnabod yr haid;
(ii) ai haid fridio yntau haid ddodwy ydyw;
(iii) y rhywogaeth;
(iv) nifer y dofednod;
(d) ar gyfer pob haid fridio—
(i) ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau o fridwyr cig ydyw; a
(ii) statws yr haid yn y pyramid bridio.
7. Mae'r Atodlen (heidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus) yn cael ei heffaith.
8. Ni chaiff neb roi unrhyw wrthficrobiad i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio gwrthficrobiaid).
9. Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).
10. Rhaid i unrhyw berson sy'n gorfod cadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am ddwy flynedd ar ôl dyddiad ei wneud a rhaid iddo'i ddangos i un o arolygwyr neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny a chaniatáu gwneud copi neu gymryd echdyniad ohono.
11. Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl na gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.
12. Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd drefnu i'r cyfryw gamau gael eu cymryd ar draul y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
13.—(1) Yr awdurdod lleol sydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru yn hytrach na'r awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
14. Dirymir Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007(6).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008
O.S. 2007/1708 (Cy.147). Back [6]