Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

ATODLEN 8 DANGOSYDDION Y BUDD-DALIADAU TAI A BUDD-DALIADAU'R DRETH GYNGOR

Rhif y dangosydd /Indicator Number Prif ddangosydd Headline indicator
NS19 Yr amser a gymrwyd i brosesu hawliadau newydd a digwyddiadau o newid mewn Budd-daliadau Tai (BT) a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor (BTG). Time taken to process Housing Benefit (HB) and Council Tax Benefit (CTB) new claims and change events.
NS20 Nifer y newidiadau mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar hawl cwsmeriaid i gael Budd-daliadau Tai (BT) neu Fudd-daliadau Treth Gyngor (BTG) yn ystod y flwyddyn. The number of changes of circumstances which affect customers' entitlement to Housing Benefit (HB) or Council Tax Benefit (CTB) within the year.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2008. Mae'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005.

Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol perthnasol fel awdurdodau gwerth gorau.

Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:

  • Atodlen 1 – Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Atodlen 2 – Tai

  • Atodlen 3 – Addysg

  • Atodlen 4 – Rheoli gwastraff

  • Atodlen 5 – Trafnidiaeth/Priffyrdd

  • Atodlen 6 – Diogelu'r Cyhoedd

  • Atodlen 7 – Effeithlonrwydd Ynni

  • Atodlen 8 – Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor.