Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL CYMRU
Gwnaed
23 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Chwefror 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau sy'n gynghorau sir neu'n gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn unig ac mae'n effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
2. Pennir y dangosyddion perfformiad o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod.
| Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y mesurir perfformiad y swyddogaethau hynny drwyddynt |
| Gwasanaethau Cymdeithasol |
| Pob dangosydd yn Atodlen 1 |
| Tai |
| Pob dangosydd yn Atodlen 2 |
| Addysg |
| Pob dangosydd yn Atodlen 3 |
| Rheoli gwastraff |
| Pob dangosydd yn Atodlen 4 |
| Trafnidiaeth/Priffyrdd |
| Pob dangosydd yn Atodlen 5 |
| Diogelu'r Cyhoedd |
| Pob dangosydd yn Atodlen 6 |
| Effeithlonrwydd Ynni |
| Pob dangosydd yn Atodlen 7 |
| Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor |
| Pob dangosydd yn Atodlen 8 |
3. Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru ) 2005(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2008
Erthygl 2
| Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|---|---|
| NS1 | Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. | The rate of delayed transfers of care for social care reasons per 1,000 population aged 75 or over. |
| NS2 | Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd): | The rate of older people (aged 65 or over): |
(a) y rhoddir cymorth iddynt yn y gymuned fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth; a |
(a) supported in the community per 1,000 population aged 65 or over at 31 March; and |
|
(b) y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth. |
(b) whom the authority supports in care homes per 1,000 population aged 65 or over at 31 March. |
|
| NS3 | (a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda Chynllun Gofal ar waith; a |
(a) the percentage of first placements of looked after children during the year that began with a Care Plan in place; and |
(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, y ganran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol. |
(b) for those children looked after whose second review (due at 4 months) was due in the year, the percentage with a plan for permanence at the due date. |
|
| NS4 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. | The percentage of children looked after at 31 March who have experienced one or more change of school, during a period or periods of being looked after, which were not due to transitional arrangements, in the 12 months to 31 March. |