Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 502 (Cy.43)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

25 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Chwefror 2008

Yn dod i rym

21 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso.

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 21 Mawrth 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Gorchymyn

2.—(1) Diwygir Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn Rhan 39 o Atodlen 2 (amddiffyn dofednod ac adar caeth eraill dros dro)—

(a) ym mharagraff A.2(c) yn lle “on or before the relevant date” rhodder “as soon as practicable on or after the relevant date”; a

(b) ym mharagraff A.3, yn y diffiniad o “relevant date” yn lle “2008” rhodder “2009”.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 39 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â chodi adeiladau sy'n angenrheidiol at ddibenion cartrefu dofednod ac adar caeth eraill i'w hamddiffyn rhag y ffliw adar. Mae graddau a natur y datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Pan fo Rhan 39 yn gymwys i'r datblygu, nid oes angen unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio. Mae caniatâd cynllunio yn cael ei roi gan Ran 39 yn ddarostyngedig i nifer o amodau, gan gynnwys amod fod y datblygiad yn cael ei symud ymaith erbyn 21 Mawrth 2008 fan bellaf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 39 drwy ymestyn y dyddiad y mae'n rhaid symud y datblygiad ymaith ar ei gyfer i 21 Mawrth 2009. Mae hefyd yn diwygio Rhan 39 gan ei gwneud yn ofynnol bod y datblygiad yn cael ei symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad estynedig.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth y Ganolfan Gyhoeddiadau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1990 p.8, y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn. Back [1]

(2)

Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60 a 333(7), bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Cyn hynny fe'u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672): gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y'i newidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddo, (O.S. 2000/253). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru. Yn rhinwedd Adran 333(4) o Ddeddf 1990, mae'r pwerau a roddwyd gan Adrannau 59, 60 a 333 (7) o Ddeddf 1990 yn arferadwy drwy offeryn statudol. Back [2]

(3)

O.S. 1995/418; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/293, 2004/3156 (W.273), 2006/1282, 2006/1386 (Cy.136) and 2007/952 (Cy.83). Back [3]