Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Erthygl 6

ATODLEN 3 Ardollau

RHAN 1 Cyflwyniad

Is-gwmnïau a chwmnïau eraill

1.  Os yw Bwrdd Ardollau Cymru wedi sefydlu is-gwmni neu gwmni enwebedig ar gyfer unrhyw un o'r gweithgareddau a bennir yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at Fwrdd Ardollau Cymru yn gyfeiriadau at yr is-gwmni neu'r cwmni arall hwnnw.

Partneriaethau

2.  Yn yr Atodlen hon mae “person” (“person”) yn cynnwys partneriaeth.

RHAN 2 Gwartheg, defaid a moch

Ardollau ar wartheg, defaid a moch

1.—(1) Rhaid i berson sy'n feddiannydd ar ladd-dŷ (“y cigyddwr”) dalu ardoll ar yr holl wartheg, defaid a moch a gigyddir ganddo.

(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n allforio gwartheg, defaid neu foch byw (“allforiwr”) dalu ardoll.

(3) Mae'r ardoll yn seiliedig ar nifer yr anifeiliaid a gigyddir neu a allforir.

(4) Mae dwy ran i'r ardoll, ardoll y cynhyrchydd a'r ardoll gigydda neu allforio.

(5) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru wneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad yn yr ardoll gigydda a'r ardoll allforio i gwmpasu costau gweinyddol y cigyddwr neu'r allforiwr wrth weinyddu'r ardoll.

(6) Os bydd cigyddwr neu allforiwr yn prynu anifail i'w gigydda neu i'w allforio, rhaid iddo didynnu ardoll y cynhyrchydd o'r pris a delir ganddo ef, a'i ddal ar ymddiried dros Fwrdd Ardollau Cymru.

(7) Os bydd cigyddwr yn cigydda anifail heb ei brynu, rhaid iddo godi ardoll y cynhyrchydd a'r ardoll gigydda ar y perchennog a'u dal ar ymddiried dros Fwrdd Ardollau Cymru.

(8) Mae cyfradd uchaf yr ardoll yn unol â'r tabl canlynol.

Cyfradd uchaf yr ardoll ar gyfer gwartheg, defaid a moch
Categori'r ardoll Cyfradd uchaf yr ardoll y pen
a

At y dibenion hyn llo yw anifail sy'n llai na chwe mis oed (yn achos anifail a allforir) neu anifail sydd a'i bwysau wedi iddo gael ei baratoi ar ôl ei gigydda yn llai na 68kg (yn achos anifail a gigyddiwyd).

Gwartheg — cigyddwr neu allforiwr (ac eithrio lloi) 1.75
Gwartheg (ac eithrio lloi) — cynhyrchydd 5.25
Lloia — cigyddwr neu allforiwr 0.50
Lloia — cynhyrchydd 0.50
Defaid — cigyddwr neu allforiwr 0.20
Defaid — cynhyrchydd 0.60
Moch — cigyddwr neu allforiwr 0.275
Moch — cynhyrchydd 1.075

Eithriadau

2.—(1) Nid oes ardoll i'w thalu ar anifeiliaid a fewnforir o Aelod-wladwriaeth arall ac a gaiff eu cigydda o fewn 3 mis yn achos gwartheg a 2 fis yn achos moch neu ddefaid.

(2) Nid oes ardoll i'w thalu os yw anifail yn ddarostyngedig i gigydda gorfodol neu os yw'r milfeddyg swyddogol yn datgan fod y carcas cyfan yn anaddas i'w fwyta gan bobl.

Datganiadau niferoedd gan feddiannydd lladd-dy

3.—(1) Rhaid i gigyddwr hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru, erbyn diwedd pob dydd Mercher, o nifer yr anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i ardoll a gafodd eu cigydda yn ystod yr wythnos flaenorol hyd at ddiwedd y Sul, gan roi'r ffigyrau ar gyfer y math o anifail.

(2) Os bydd cigyddwr yn amcangyfrif y bydd cyfanswm yr anifeiliaid a gaiff eu cigydda yn gyfanswm o lai na 25 bob wythnos, caiff wneud cais i Fwrdd Ardollau Cymru am gael ei gofrestru fel gweithredydd bach; ac os bydd Bwrdd Ardollau Cymru yn cytuno i'w gofrestru felly, rhaid i'r gweithredydd hysbysu'r Bwrdd ar y pymthegfed diwrnod o bob mis neu cyn hynny o nifer yr anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i ardoll a gafodd eu cigydda yn ystod y mis blaenorol, gan roi'r ffigyrau ar gyfer y math o anifail.

(3) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Talu'r ardoll gan feddianwyr lladd-dai

4.  Rhaid i feddiannydd lladd-dŷ dalu'r ardoll sy'n ddyledus ar anifeiliaid a gafodd eu cigydda mewn unrhyw fis o fewn 15 niwrnod i ddiwedd y mis.

Datganiadau niferoedd a thalu'r ardoll gan allforwyr

5.—(1) Rhaid i allforiwr hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru, o fewn 30 o ddiwrnodau o ddiwedd y mis, o nifer yr anifeiliaid a allforiwyd yn ystod y mis blaenorol, ac mae methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2) Rhaid iddo dalu'r ardoll pan gaiff anfoneb.

Gorfodi

6.—(1) Caiff person a benodwyd gan Fwrdd Ardollau Cymru, wedi dangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdodiad os gofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i unrhyw ladd-dŷ ar unrhyw awr resymol i wirio unrhyw gofnodion i sicrhau fod yr ardoll gywir wedi'i thalu.

(2) Mae rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y paragraff hwn neu fethu â dangos cofnodion pan ofynnir amdanynt yn dramgwydd .

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn creu corff newydd, Bwrdd Ardollau Cymru (“y Bwrdd”) sydd â swyddogaethau a dyletswyddau yn ymwneud â'r diwydiannau cig eidion, cig defaid a chig moch yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad a thrafodion y Bwrdd.

Caiff y Bwrdd godi tollau mewn perthynas â phob un o'r diwydiannau (erthygl 6). Gosodir y manylion am dalu'r ardollau, a mwyafswm yr ardoll a ganiateir, yn Atodlen 3. O dan yr Atodlen honno, mae methu â gwneud datganiad niferoedd mewn perthynas ag ardoll yn dramgwydd.

Os bydd nifer gosodedig o rai sy'n talu'r ardollau yn galw am hynny, rhaid i'r Bwrdd gynnal pleidlais ar a ddylai'r system ardollau barhau (erthyglau 11 a 12).

Mae yna dramgwyddau yn ymwneud â darparu gwybodaeth i Fwrdd Ardollau Cymru a chadw cofnodion (erthygl 14).

Y gosb am dorri'r Gorchymyn yw dirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Mae asesiad rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NW.