Erthygl 3(3)
1. Hybu neu wneud gwaith ymchwil gwyddonol.
2.—(1) Hybu neu wneud ymholiadau—
(a) i ddeunyddiau a chyfarpar, a
(b) i ddulliau cynhyrchu, rheoli a defnyddio llafur.
(2) Mae hybu neu wneud ymholiadau o dan is-baragraff (1) yn cynnwys hybu neu wneud gwaith—
(a) darganfod a datblygu—
(i) deunyddiau, cyfarpar a dulliau newydd, a
(ii) gwelliannau i'r rheini a ddefnyddir eisoes,
(b) asesu manteision gwahanol ddewisiadau, ac
(c) cynnal sefydliadau arbrofol a phrofion ar raddfa fasnachol.
3. Hybu cynhyrchu a marchnata cynhyrchion safonol.
4. Hybu diffinio disgrifiadau masnachol yn well a defnyddio disgrifiadau masnachol yn fwy cyson.
5. Datblygu, hybu, marchnata neu weithredu—
(a) safonau sy'n ymwneud ag ansawdd cynhyrchion, neu
(b) systemau i roi dosbarth ar gynhyrchion.
6. Datblygu, adolygu neu weithredu cynlluniau ar gyfer ardystio cynhyrchion neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu neu gyflenwi cynhyrchion.
7. Gwneud gwaith ardystio cynhyrchion, cofrestru nodau masnach ardystio, a swyddogaethau perchenogion nodau o'r fath.
8. Darparu neu hybu darparu—
(a) hyfforddiant ar gyfer personau sy'n cymryd rhan yn y diwydiant neu'n bwriadu cymryd rhan ynddo, a
(b) eu haddysg mewn pynciau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
9.—(1) Hybu—
(a) mabwysiadu mesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell, a
(b) darparu a gwella cyfleusterau i bersonau a gyflogir.
(2) Hybu neu wneud gwaith ymchwil i fesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell.
10. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i amlder, atal a gwella clefydau diwydiannol.
11. Hybu neu wneud trefniadau i annog pobl i ddod i mewn i'r diwydiant.
12. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i wella trefniadau ar gyfer marchnata a dosbarthu cynhyrchion.
13. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i faterion yn ymwneud â mynd trwy neu ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant.
14. Hybu trefniadau—
(a) ar gyfer cymdeithasau cydweithredol,
(b) i gyflenwi deunyddiau a chyfarpar, ac
(c) i farchnata a dosbarthu cynhyrchion.
15. Hybu datblygiad y fasnach allforio, gan gynnwys hybu neu wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd tramor.
16. Hybu neu wneud trefniadau fel bod y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn dod yn fwy cyfarwydd â'r nwyddau a'r gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant ac â'r dulliau o'u defnyddio.
17. Hybu neu wneud y gwaith o gasglu a fformiwleiddio ystadegau.
18. Rhoi cyngor ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant (ac eithrio cyflogau neu amodau cyflogaeth) y dichon Gweinidogion Cymru ofyn i Fwrdd Ardollau Cymru roi cyngor arnynt, a gwneud ymchwil at y diben o alluogi Bwrdd Ardollau Cymru i roi cyngor ar faterion o'r fath.
19. Gwneud trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ar gael ar faterion y mae Bwrdd Ardollau Cymru yn ymwneud â hwy wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a rhoi cyngor ar y materion hynny.
20. Ymgymryd ag unrhyw ffurf o gydweithio neu gydweithredu â phersonau eraill wrth iddynt wneud unrhyw un o'i swyddogaethau.
Erthygl 4
1.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru benderfynu ar ei weithdrefnau ei hun, ac yn benodol caiff—
(a) penderfynu ar gworwm;
(b) penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau i'w gynghori wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau; a
(c) penderfynu ar gworwm a gweithdrefnau unrhyw un o'r is-bwyllgorau hynny.
(2) Caiff unrhyw bwyllgor gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd Ardollau Cymru.
2.—(1) Ni chaiff tymor swydd y cadeirydd nac aelod o'r bwrdd fod yn hwy na phedair blynedd.
(2) Caiff aelod ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod—
(a) a fu'n absennol o gyfarfodydd Bwrdd Ardollau Cymru am gyfnod o fwy na 6 mis heb ganiatâd Bwrdd Ardollau Cymru,
(b) sy'n mynd yn fethdalwr neu'n gwneud trefniant gyda'i gredydwyr neu (yn yr Alban) y secwestrir ei ystâd, neu
(c) sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi mynd yn anabl, neu heb fod yn ffit neu'n anaddas i wneud ei ddyletswyddau.
(4) Mae person sy'n peidio â bod yn aelod neu'n peidio â bod yn gadeirydd neu'n ddirprwy gadeirydd yn gymwys i'w ail benodi i'r swydd honno.
(5) Rhaid i aelod o'r bwrdd ddatgelu ar unwaith unrhyw fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw gontract neu fater y mae'r bwrdd yn ei gynnig neu'n ei drafod.
(6) Rhaid cofnodi'r datgeliad hwnnw yng nghofnodion Bwrdd Ardollau Cymru, ac ar ôl y datgeliad rhaid i'r aelod hwnnw beidio â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu benderfyniad gan y bwrdd ar y contract hwnnw, ond gellir, fodd bynnag, ei gyfrif at ddibenion ffurfio cworwm o'r bwrdd.
3. Mae gan bob aelod (gan gynnwys y cadeirydd) un bleidlais, ac os yw pleidlais yn gyfartal mae gan y person sy'n cadeirio'r cyfarfod hwnnw bleidlais fwrw.
4.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru dalu i'w aelodau unrhyw dreuliau a dducpwyd yn briodol ganddynt hwy wrth wneud gwaith y bwrdd, a chaiff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag y penderfyna Gweinidogion Cymru arnynt.
(2) Os—
(a) yw person yn peidio â bod yn aelod, a
(b) os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yna amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r person hwnnw gael ei ddigolledu,
caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r bwrdd i dalu i'r person hwnnw swm a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru dalu i aelodau pwyllgor unrhyw dreuliau a dducpwyd yn briodol ganddynt hwy wrth wneud gwaith y bwrdd, a chaiff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag y penderfyna Gweinidogion Cymru arnynt.
5. Caiff Bwrdd Ardollau Cymru benodi'r cyflogeion y penderfyna arnynt, a chaiff dalu iddynt y fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau eraill, a gwneud y fath ddarpariaeth ar gyfer pensiynau ag y penderfyna arnynt.