Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 420 (Cy.39)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008

Gwnaed

19 Chwefror 2008

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(2)—

  • adrannau 87 i 90 a 97(1) a (2);

  • Paragraffau 5 i 11 o Atodlen 8; ac

  • Atodlenni 9 a 10.

  • Ac o dan adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chyrff sy'n ymddangos iddynt hwy eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Gorchymyn hwn fel sy'n ofynnol gan adran 97(5) o'r Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

Yn unol ag adran 97 o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008.

(2) Mae erthyglau 2, 3(1) a (2), 4, 5, 8, 9 a 10 ac Atodlen 2 yn dod i rym y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

(3) Mae gweddill y Gorchymyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008.

Cwmpas

2.—(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â —

(a) y diwydiant cig eidion a chig defaid yng Nghymru; a

(b) y diwydiant moch yng Nghymru.

(2) At y dibenion hyn:

ystyr “diwydiant cig eidion a chig defaid” (“beef and sheep industry”) yw pob gweithgaredd sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata a dosbarthu—

(a)

gwartheg a defaid, gan gynnwys cynnal lladd-dai ac arwerthiannau a marchnadoedd gwartheg a defaid;

(b)

cig a chynhyrchion cig (heblaw llaeth a chynhyrchion llaeth) sy'n deillio o wartheg a defaid;

ystyr “diwydiant moch” (“pig industry”) yw pob un o'r gweithgareddau sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata a dosbarthu moch neu gynhyrchion moch, gan gynnwys cynnal lladd-dai ac arwerthiannau a marchnadoedd moch;

(3) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “diwydiant” (“industry”) yn gyfeiriad at un neu fwy o'r diwydiannau hyn.

Sefydlu Bwrdd Ardollau Cymru

3.—(1) Drwy hyn sefydlir corff o'r enw Bwrdd Ardollau Cymru.

(2) Ei ddibenion yw—

(a) cynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant yn y diwydiant;

(b) gwella marchnata yn y diwydiant;

(c) gwella neu ddatblygu gwasanaethau y mae'r diwydiant yn eu darparu i'r gymuned neu y gallai eu darparu iddi; ac

(ch) gwella'r ffyrdd y mae diwydiant o'r fath yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

(3) Ei swyddogaethau yw darparu unrhyw rai o'r gwasanaethau a bennir yn Atodlen 1 (swyddogaethau Bwrdd Ardollau Cymru).

Cyfansoddiad etc. Bwrdd Ardollau Cymru

4.  Mae Atodlen 2 (cyfansoddiad a thrafodion Bwrdd Ardollau Cymru) yn cael ei heffaith.

Gweithredu drwy is-gwmnïau a chwmnïau eraill

5.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru sefydlu neu gaffael is-gwmni ar gyfer pob un o'r diwydiannau o fewn cwmpas y Gorchymyn hwn a chaiff sefydlu neu gaffael y fath is-gwmnïau eraill a ddichon fod yn gydnaws neu'n gysylltiedig â'i swyddogaethau, ac mae cyfeiriad at is-gwmni yn y Gorchymyn hwn yn gyfeiriad at gwmni o'r fath.

(2) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau yn Atodlen 1 i is-gwmni neu gwmni arall ond ni fydd unrhyw drefniant o'r fath yn effeithio ar gyfrifoldebau Bwrdd Ardollau Cymru o dan y Gorchymyn hwn.

Ardollau

6.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru osod ardoll i'w alluogi i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pob un o'r diwydiannau a gwmpesir gan y Gorchymyn hwn, ac mae Atodlen 3 yn cael ei heffaith.

(2) Rhoddir yr holl ffigurau yn yr Atodlen honno heb gynnwys TAW.

(3) Diben yr ardollau yw galluogi Bwrdd Ardollau Cymru i

(a) diwallu ei gostau wrth ddarparu unrhyw wasanaeth a bennir yn Atodlen 1;

(b) diwallu ei dreuliau gweinyddol;

(c) hybu diben yn erthygl 3(2);

(ch) sefydlu cronfa wrth gefn.

(4) Os yw cyfradd yr ardoll (ac unrhyw gyfradd uwch am dalu'r ardoll yn hwyr) yn uwch na'r gyfradd briodol a osodir ym mharagraff 1(8) o Atodlen 3 Rhan 2 i'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r cyfryw gyfradd o ardoll (ac unrhyw gyfradd uwch am dalu'r ardoll yn hwyr) gael ei chymeradwyo ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

(5) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddirprwyo casglu'r ardoll i is-gwmni neu gwmni enwebedig.

(6) Ni cheir defnyddio ardoll a godir mewn perthynas â diwydiant ond mewn perthynas â'r diwydiant hwnnw.

Amcangyfrifon

7.—(1) Os bydd unrhyw berson sydd dan rwymedigaeth i dalu ardoll yn methu â hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 3 erbyn y dyddiad gosodedig a bennir yn yr Atodlen honno, caiff Bwrdd Ardollau Cymru neu'r is-gwmni neu'r cwmni enwebedig amcangyfri'r swm y dylid bod wedi ei hysbysu, a hysbysu'r person hwnnw o'r amcangyfrif.

(2) Os yw'r person yn methu â gwneud datganiad niferoedd o fewn 28 niwrnod o gael hysbysiad o amcangyfrif fe ddaw dan rwymedigaeth i dalu ardoll ar yr amcangyfrif hwnnw.

(3) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddarparu fod cyfradd uwch o ardoll yn daladwy ar y swm a amcangyfrifwyd, ond ni chaiff y swm hwnnw fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 3.

Ffioedd am wasanaethau

8.  Caiff Bwrdd Ardollau Cymru, neu unrhyw is-gwmni neu gwmni arall, godi ffioedd sy'n ymddangos yn rhesymol i Fwrdd Ardollau Cymru neu i'r is-gwmni atodol neu'r cwmni enwebedig am unrhyw wasanaethau yn ychwanegol at y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 6.

Cronfeydd wrth gefn etc.

9.  Caiff Bwrdd Ardollau Cymru—

(a) sefydlu a chynnal cronfa wrth gefn at ddibenion ei swyddogaethau; a

(b) cymryd benthyg arian ac arwystlo tir.

Pwerau cysylltiedig

10.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru wneud unrhyw beth a ymddengys iddo ef yn gydnaws â neu'n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau.

(2) Yn benodol caiff—

(a) gwneud cytundebau;

(b) caffael neu waredu eiddo;

(c) codi arian drwy gyfraniadau gwirfoddol; ac

(ch) derbyn rhoddion.

Cynnal pleidlais

11.—(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru gynnal pleidlais ar unrhyw adeg ar a ddylai ardoll barhau ai peidio.

(2) Rhaid iddo wneud hynny os yw, o fewn cyfnod o dri mis, yn cael un neu fwy o geisiadau i gynnal pleidlais wedi'i lofnodi gan o leiaf 5% o bersonau sydd â hawl i bleidleisio mewn pleidlais.

(3) Cyfrifir y cyfnod o dri mis o ddiwrnod cyntaf unrhyw fis.

(4) Ni chaniateir cynnal pleidlais ar yr un ardoll ar gais personau sydd â hawl i bleidleisio yn amlach na phob 5 mlynedd.

(5) Nid yw cais i gynnal pleidlais yn ddilys os caiff ei wneud cyn 1 Ebrill 2012.

(6) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith o ganlyniad pleidlais, ond nid yw Gweinidogion Cymru yn rhwym wrth y canlyniad.

Pwy sydd â phleidlais

12.—(1) Mae gan y canlynol yr hawl i bleidleisio mewn perthynas â'r ardoll.

Pleidleiswyr
Ardoll Pleidleiswyr a chategorïau
Moch Unrhyw berson sy'n cadw moch yng Nghymru
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio moch yng Nghymru
Gwartheg Unrhyw berson sy'n cadw gwartheg yng Nghymru
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio gwartheg yng Nghymru
Defaid Unrhyw berson sy'n cadw defaid yng Nghymru
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio defaid yng Nghymru

(2) Rhaid bodloni'r cymhwyster ar gyfer pleidleisio ar unrhyw adeg yn y deuddeng mis cyn y bleidlais.

(3) Un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio (os oes partneriaeth un bleidlais sydd gan bob partneriaeth).

(4) Gellir cynnal pleidleisiau ar wahân ar gyfer gwahanol gategorïau o bleidleiswyr.

Adroddiad a chyfrifon

13.—(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru—

(a) paratoi adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn; a

(b) anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru o fewn y fath gyfnod ag y cyfarwydda Gweinidogion Cymru.

(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw

(a) y cyfnod sy'n dechrau gyda dyddiad sefydlu Bwrdd Ardollau Cymru ac sy'n gorffen gyda 31 Mawrth 2009; a

(b) pob cyfnod olynol o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru—

(a) cadw cofnodion cyfrifo priodol; a

(b) paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

(4) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru gyflwyno'r cyfrifon y mae'n eu paratoi ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru dim hwyrach na 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol olynol.

(5) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru —

(a) archwilio, ardystio ac adrodd ar bob set o gyfrifon a gyflwynir iddo o dan y paragraff hwn, a

(b) dim hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno iddo, gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd ganddo gerbron y Cynulliad, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

Darparu gwybodaeth gan Fwrdd Ardollau Cymru

14.—(1) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru roi i Weinidogion Cymru wybodaeth o'r fath sy'n ofynnol ganddynt yn ymwneud ag eiddo Bwrdd Ardollau Cymru neu â chyflawni ei swyddogaethau neu â'r ffordd y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.

(2) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru hefyd—

(a) caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i arolygu a gwneud copïau o unrhyw gyfrifon neu ddogfennau eraill; a

(b) rhoi esboniad arnynt yn ôl gofyn y person hwnnw neu Weinidogion Cymru.

Darparu gwybodaeth i Fwrdd Ardollau Cymru

15.—(1) Mae'n dramgwydd rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn perthynas â gofynion y Gorchymyn hwn i Fwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig.

(2) Rhaid i unrhyw berson sydd dan rwymedigaeth i dalu ardoll o dan y Gorchymyn hwn gadw cofnodion digonol i alluogi Bwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig i ganfod faint o ardoll sy'n ddyledus a rhaid iddo'u dangos i swyddog o Fwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig os gofynnir iddo wneud hynny; ac mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cosbau ac achosion

16.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Gellir dwyn achos am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn o fewn cyfnod o 6 mis yn dechrau gyda'r dyddiad pan ddaeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos yn hysbys iddo, cyn belled ag nad yw dyddiad cychwyn achos o'r fath fwy na 2 flynedd ar ôl dyddiad cyflawni'r tramgwydd.

(3) Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb o'r corff corfforaethol; neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(4) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

(5) Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Chwefror 2008

(1)

Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

2006 p.16. Back [2]

(3)

1998 p.38. Back [3]