Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2007 i 11 Medi 2008 gan gynnwys y dyddiadau hynny at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007.

Mae asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Uned o dir amaethyddol yw “uned fasnachol o dir amaethyddol” sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn sydd yn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2006 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006.