Erthygl 6
1.—(1) Caiff adran 46 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Hepgorir is-adran (1).
(3) Yn is-adran (1A) yn lle “Greater London” rhoddir “the parking area”.
2.—(1) Diwygir adran 55 fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
“(1) A local authority must keep an account of—
(a) their income and expenditure in respect of designated parking places for which they are the local authority and which are in the permitted parking area; and
(b) their income from additional parking charges (within the meaning of section 74(6) of the Road Traffic Act 1991) received by them in respect of vehicles found within the special parking area and the expenditure incurred by them in relation to that area by virtue of any provision of Part II of the Road Traffic Act 1991 as it applies in relation to that area.
(1A) As soon as reasonably possible after the end of each financial year the local authority must forward to the Welsh Ministers a copy of the account for that year.”.
(3) Hepgorir is-adrannau (3A) a (3B).
3. Yn is-adran 63A(4)—
(a) yn lle'r geiriau “in Greater London” rhoddir “in the parking area”; a
(b) yn lle'r geiriau “Greater London Authority” rhoddir “Welsh Ministers”.
4.—(1) Caiff adran 101 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Hepgorir is-adran (4).
(3) Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.
(4) Hepgorir is-adran (5).
(5) Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.
5.—(1) Caiff adran 102 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
“(1) If a vehicle is removed from the parking area in circumstances in which an offence would have been committed but for the provisions of paragraph 1(4) or 2(4) of Schedule 3 to the Road Traffic Act 1991, the local authority shall be entitled to recover from any person responsible, such charges in respect of the removal, storage and disposal of the vehicle, as they may require.”.
(3) Hepgorir is-adran (2).
(4) Yn lle is-adran (4) rhoddir—
“(4) Without prejudice to subsection (3) above, where by virtue of subsection (1) above any sum is recoverable in respect of a vehicle by a local authority in whose custody the vehicle is, the local authority shall be entitled to retain custody of it until that sum has been paid.”.
(5) Hepgorir is-adran (7).
(6) Yn is-adran (8) hepgorir y diffiniad o “appropriate authority”.
(7) Hepgorir is-adran (9).
6. Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o “parking device” mewnosodir—
““parking area” means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County Borough of Wrexham) Order 2008 and “permitted parking area” and “special parking area” are to be read accordingly;”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1(1) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pŵer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.
Caiff y Gorchymyn hwn ei wneud yn dilyn cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“yr awdurdod lleol”) ac ymgynghoriad statudol â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.
Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'n ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig y cyfan o fwrdeistref sirol Wrecsam heblaw am y darn cyfan o'r A483 sydd o fewn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys ei slipffyrdd ymuno a'i slipffyrdd ymadael, ac heblaw hefyd am yr A5 tua'r de o'i chyffordd â'r A483 i'r ffin sirol â Swydd Amwythig ac am yr A5 tua'r gorllewin o'i chyffordd â'r A483 i'w chyffordd â'r B5070 (“yr ardal barcio”). Unwaith y bydd y Gorchymyn mewn grym, rhoddir y pŵer i swyddogion parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir yn swyddogion parcio gan berson y mae'r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef) i osod hysbysiadau ffioedd cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a chânt, mewn achosion priodol, awdurdodi llusgo ymaith neu barlysu cerbydau.
Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae'r ffioedd cosb yn yr ardal barcio i'w gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru. Gall yr awdurdod lleol eu hadennill fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer gwneud sylwadau i'r awdurdod lleol os digwydd i ffi gosb gael ei rhoi neu os digwydd i gerbyd gael ei lusgo ymaith neu ei barlysu. Gwaith dyfarnwyr parcio a benodwyd gan gyd-bwyllgor a ffurfiwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fydd dyfarnu os cyfyd anghytundebau.