Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 GWYBODAETH ARALL SYDD I'W DDARPARU GAN AWDURDODAU LLEOL

7.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth yn unol ag adran 27(2)(b) ac adran (c) o Ddeddf 2006, a rhaid i'r wybodaeth gynnwys gwybodaeth ar y pynciau canlynol:—.

(a) Cynllun Plant a Phobl Ifanc Awdurdod Lleol sy'n ymwneud ag adran 26 o Ddeddf Plant 2004;

(b) gwasanaethau addysg a dysgu teuluol;

(c) gwasanaethau iechyd a lles;

(ch) chwarae, chwaraeon a chyfleusterau hamddena eraill;

(d) gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd;

(dd) gwasanaethau ieuenctid;

(e) gwasanaethau ariannol a chyfreithiol;

(f) datblygu plant;

(ff) cadw'n ddiogel;

(g) gwasanaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer plant anabl a pobl ifanc;

(ng) gwasanaethau sy'n hyrwyddo defnyddio'r Iaith Gymraeg.

Gwasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau

8.  Pan gaiff gwybodaeth ei darparu gan yr awdurdod lleol am wasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau sydd ar gael yn lleol, dylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys y canlynol, lle bo hynny'n briodol:

(a) enw'r gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(b) cwmpas y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(c) manylion cyswllt y gwasanaeth neu'r cyfleuster gan gynnwys enw'r gwasanaeth neu'r cyfleuster a, pan fo hynny ar gael, cyfeiriad, Rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad gwefan;

(ch) dull o gael at y cyhoeddiad;

(d) lleoliad y gwasanaeth neu'r cyfleuster;

(dd) math y gwasanaeth a'r cyfleuster a ddarperir;

(e) oriau agor y gwasanaeth neu'r cyfleuster;

(f) cost y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad;

(ff) unrhyw feini prawf ar gyfer bod y gwasanaeth, y cyfleuster neu'r cyhoeddiad ar gael, neu unrhyw gyfyngiadau arno.

9.  Pan na gaiff gwybodaeth ei darparu gan yr awdurdod lleol ar wasanaethau, cyfleusterau neu gyhoeddiadau, bydd yn ddigonol i'r awdurdod lleol ddarparu manylion am asianteithau neu adnoddau gwybodaeth priodol.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y mathau o wybodaeth y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu darparu i rieni ac i ddarpar rieni o dan eu dyletswyddau yn adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006.