Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 170 (Cy.23)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ionawr 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1 CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin am ddim” (“free nursery education”) yw darpariaeth a wneir o dan drefniadau rhwng y darparydd a'r awdurdod lleol yn unol â dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

Mae i “Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yr un ystyr ag sydd i “Her Majesty’s Inspectorate of Education and Training in Wales” yn Neddf Addysg 2005(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “yn lleol” (“locally”) yw o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.

Gwybodaeth a Ragnodwyd

3.  Mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn wybodaeth a ragnodwyd at ddibenion adran 27(2) o Ddeddf 2006.

RHAN 2 GWYBODAETH AM DDARPARIAETH GOFAL PLANT

4.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn darparu i rieni neu i ddarpar rieni wybodaeth am ddarpariaeth gofal plant yn ei ardal yn unol ag adran 27(2)(a) o Ddeddf 2006 rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys y canlynol ar gyfer pob darpariaeth:

(a) yn ddarostyngedig i Reoliad 4(2), manylion cyswllt gan gynnwys enw'r ddarpariaeth, ei chyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost;

(b) y math o ddarpariaeth, hynny yw, darpariaeth mewn grŵp, yn y cartref neu yn yr ysgol.

(c) yr ystod oed a gwmpesir;

(ch) yr oriau agor, cyfanswm nifer yr wythnosau pan fo'r ddarpariaeth ar agor a'r wythnosau penodol pan fo'r ddarpariaeth wedi cau;

(d) nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer pob grŵp oedran;

(dd) cost y ddarpariaeth;

(e) mewn perthynas ag addysg feithrin am ddim:

(i) a yw ei ddarpariaeth yn ddarpariaeth amser-llawn neu ran-amser ac a yw'n derbyn plant yn flynyddol neu fesul tymor;

(ii) sut mae'n ymwneud â'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg neu leoliadau seiliedig ar ffydd;

(iii) manylion am y lleoedd a ddarperir yn yr adran a gynhelir a'r adran nas cynhelir (ond ariennir) fel ei gilydd. Dylai'r wybodaeth gynnwys:

(aa) ar gyfer y sector a gynhelir:

(i) enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr ysgol;

(ii) cyfrwng y ddarpariaeth yn yr ysgol; a

(iii) nifer y lleoedd perthnasol yn yr ysgol.

(bb) ar gyfer y sector nas cynhelir:

(i) enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y lleoliad;

(ii) math y lleoliad (a yw'n Gylch Meithrin, cylch chwarae cyfrwng Saesneg, gwarchodydd plant neu feithrinfa dydd breifat etc.);

(iii) cyfrwng y ddarpariaeth yn y lleoliad; a

(iv) nifer y lleoliadau (rhan-amser) a gytunwyd gyda Phartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant eu bod yn gymwys i'w hariannu.

(f) a yw'r ddarpariaeth wedi'i chofrestru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (drwy Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)) yn unol â Deddf Plant 1989(5), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000(6), ac os felly, sut y gall rhieni gael copïau o'r adroddiad perthnasol.

(ff) a yw'r ddarpariaeth yn cael ei harolygu gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn unol â Phennod 3 o Ddeddf Addysg 2005, ac os yw, sut y gall rhieni gael copïau o'r adroddiad perthnasol;

(g) gwybodaeth ynghylch yr Iaith Gymraeg a natur ddwyieithog y ddarpariaeth.

(2) Rhaid i awdurdod lleol beidio â rhoi manylion cyswllt person sy'n gweithredu fel gwarchodydd plant, nac unrhyw ran ohonynt, pan fo'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i'r Awdurdod Lleol ei fod yn gwrthwynebu i'w fanylion cyswllt neu unrhyw ran ohonynt, gael eu rhoi.

Darpariaeth mewn ysgol

5.  Pan fo'r ddarpariaeth mewn ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol nodi a yw'r ddarpariaeth yn cael ei rhedeg a'i rheoli gan yr ysgol.

Cyfleusterau ar gyfer plant anabl

6.  Pan fo rhiant yn rhiant i blentyn anabl, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am fynediad at wasanaethau a chyfleusterau arbenigol sydd ar gael ar gyfer plant anabl o fewn lleoliad gofal plant.

(1)

2006 p.21 Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]

(3)

1998 p.31 Back [3]

(4)

2005 p.18 Back [4]

(5)

1989 p.41 Back [5]

(6)

2000 p.14 Back [6]