Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 9

YR ATODLEN Buddiannau ariannol a gwrthdrawiadau penodedig eraill o ran buddiant

Buddiannau ariannol

1.—(1) At ddibenion rheoliad 9, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a) lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef;

(b) lle y mae'r person perthnasol yn bartner i berson, neu o dan gyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef; neu

(c) mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(5) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), a bod y person hwnnw'n gwybod, neu y byddai'n cael ei drin fel un sy'n gwybod, bod ganddo fuddiant o'r fath.

(2) At ddibenion rheoliad 9, nid yw person perthnasol i'w drin fel un sydd â buddiant ariannol yn unrhyw fater—

(a) ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y sawl sy'n gyffredinol yn cael eu talu i weithio yn yr ysgol;

(b) dim ond oherwydd y ffaith yr enwebwyd neu y penodwyd y person i swydd, a'i fod yn aelod o gorff cyhoeddus neu o dan gyflogaeth corff cyhoeddus; neu

(c) dim ond oblegid ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau yn y gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.

(3) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion ar gyfer un neu fwy o'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu haelodau rhag atebolrwydd y maent yn agored iddo sy'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff llywodraethu sy'n cydweithredu, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a rhag talu'r premiymau.

(4) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor rhag ystyried neu bleidleisio ar unrhyw gynnig ynghylch lwfansau i'w talu yn unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(6) oherwydd bod ganddynt fuddiant mewn talu lwfansau o'r fath i aelodau o'r cyd-bwyllgor yn gyffredinol ond rhaid i aelod o gyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir, a rhaid i'r aelod beidio â phleidleisio, p'un a ddylai dderbyn lwfans penodol, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans a dalwyd iddo.

Penodi aelod o'r cyd-bwyllgor, cadeirydd neu glerc

2.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth yw—

(a) penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, ei atal neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cyd-bwyllgor;

(b) penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y cyd-bwyllgor;

(c) os yw'r person yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.

(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.

Talu neu arfarnu personau sy'n gweithio yn un o'r ysgolion sy'n cydweithio

3.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol sy'n cael ei dalu i weithio mewn ysgol heblaw fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi yn yr ysgol.

(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio'r pennaeth.

(3) Yn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.

Penodi staff

4.  Pan fo person perthnasol sy'n cael ei gyflogi i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw penodi olynydd i'r person hwnnw, rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater o dan sylw a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu sy'n cydweithredu

5.  Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gyd-bwyllgor o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu mewn mwy nag un ysgol o dan unrhyw amgylchiadau i'w ystyried fel gwrthdaro buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion i ddatblygu trefniadau gweithio ar y cyd ac, os ydynt yn dymuno, i ddirprwyo arfer eu swyddogaethau i un cyd-bwyllgor neu fwy.

Mae rheoliad yn darparu y bydd y Rheoliadau'n dod i rym ar 16 Mawrth 2008. Yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli.

Mae rheoliad 3 yn galluogi dau neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion i drefnu bod eu swyddogaethau'n cael eu cyflawni ar y cyd a dirprwyo arfer y swyddogaethau hynny i gyd-bwyllgor, i'r graddau y caniateir dirprwyo o'r fath o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Mae rheoliadau 4 i 10 yn ymdrin â sefydlu, aelodaeth a thrafodion cyd-bwyllgorau. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer y cyrff llywodraethu sy'n cydweithio i sefydlu cyd-bwyllgor, gan gynnwys penderfynu ei gyfansoddiad, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl y mae'n rhaid eu hadolygu'n flynyddol. Mae'r cyd-bwyllgor yn penderfynu ei gworwm ei hun (nad yw'n llai na thri llywodraethwr), yn penodi ei gadeirydd ei hun (y gellir ei symud o'i swydd ar unrhyw adeg) a chaiff benodi aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr y penderfynir eu hawliau pleidleisio gan y cyrff llywodraethu sy'n cydweithio.

Rhaid i'r cyd-bwyllgor benodi clerc i gynnull ei gyfarfodydd a sicrhau bod cofnodion o'i drafodion yn cael eu llunio (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff cyd-bwyllgor benodi “aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr”, nad ydynt yn llywodraethwyr ac y caniateir rhoi hawliau pleidleisio iddynt gan y cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol) os ydynt dros 18 oed. Dylai aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr fod yn bobl na fyddent wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn llywodraethwyr o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. O dan reoliad 7, mae pwer gan gyd-bwyllgorau i benderfynu pwy gaiff fynychu eu cyfarfodydd. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cynnull cyfarfodydd a phleidleisio.

Mae rheoliad 9 a'r Atodlen yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i aelodau o gyd-bwyllgor ac eraill sydd â hawl fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r cyd-bwyllgor ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Yr egwyddor gyffredinol yw pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn ei gwneud yn ofynnol bod gwrandawiad teg yn cael ei gynnal a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person i weithredu'n ddiduedd, dylai ymneilltuo o'r cyfarfod hwnnw a pheidio â phleidleisio.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â llunio cofnodion cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a chyhoeddi'r cofnodion.

(6)

O.S. 2005/2915 (Cy.212). Back [6]