Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 138 (Cy.20)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

22 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ionawr 2008

Yn dod i rym

15 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra cafodd y Rheoliadau hyn eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008, deuant i rym ar 15 Chwefror 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

2.  Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(3) (“y Rheoliadau Ychwanegion”) wedi'u diwygio'n unol â rheoliadau 3 i 13 isod.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a) Yn y diffiniad o “carrier” a “carrier solvent”, ar ôl “miscellaneous additive,” mewnosoder “flavouring,” ;

(b) yn y diffiniad o “Directive 95/2/EC”, yn lle'r ymadrodd “and European Parliament and Council Directive 2003/114/EC” rhodder “, European Parliament and Council Directive 2003/114/EC(4) and European Parliament and Council Directive 2006/52/EC(5);”;

(c) yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r ymadrodd “and Commission Directive 2004/45/EC”, rhodder, “Commission Directive 2004/45/EC and Commission Directive 2006/129/EC(6);”; ac

(ch) ar ôl y diffiniad o “food additive”, mewnosoder y diffiniad canlynol—

“food supplement” means a foodstuff the purpose of which is to supplement the normal diet and which is a concentrated source of vitamins or minerals or other substances with a nutritional or physiological effect, alone or in combination, marketed in dose form such as capsules, pastilles, tablets, pills and other similar forms, sachets of powder, ampoules of liquids, drop-dispensing bottles, and other similar forms of liquids and powders designed to be taken in measured small unit quantities;.

4.  Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau), ar ôl paragraff (1F), mewnosoder y paragraff canlynol—

(1G) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove that—

(a) the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 15th August 2008; and

(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 5(a), 6(a), 6(b) and (d) or 8 of the Miscellaneous Food Additives and the Sweeteners in Food (Amendment) (Wales) Regulations 2008 had not been made when the food additive or food was placed on the market or labelled..

5.  Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6, 7 nac 8)—

(a) ychwaneger fel Nodyn (5) y canlynol—

(5) The substances E400, E401, E402, E403, E404, E406, E407, E407a, E410, E412, E413, E414, E415, E417, E418 and E440 may not be used in jelly cups, defined for the purpose of these Regulations as jelly confectionery of a firm consistency, contained in semi-rigid mini-cups or mini-capsules, intended to be ingested in a single bite by exerting pressure on the mini-cup or mini-capsule so as to project the confectionery into the mouth.;

(b) ar ôl y cofnod ynghylch E461, mewnosoder y canlynol—

E 462 Ethyl cellulose

6.  Yn Atodlen 2 (cadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol) rhan A (sorbadau, bensoadau a p-hydrocsibensoadau)—

(a) hepgorer y cofnodion ar gyfer “E 216 Propyl p-hydroxybenzoate” a “E 217 Sodium propyl p-hydroxybenzoate” yn y tabl cyntaf;

(b) hepgorer y cofnodion ar gyfer “Shrimps, cooked” a “Crayfish tails, cooked and pre-packed Marinated cooked molluscs” yn yr ail dabl;

(c) yn y golofn gyntaf (sy'n dwyn y teitl “Food”) o'r ail dabl, yn lle'r geiriau “Dietetic foods intended for special medical purposes” rhodder “Dietary foods for special medical purposes as defined in Directive 1999/21/EC(7)”;

(ch) ychwaneger y cofnodion canlynol at yr ail dabl ar y diwedd:

Crustaceans and molluscs, cooked 1000 2000
Food supplements supplied in liquid form 2000

7.  Yn Atodlen 2 Rhan B (sylffwr diocsid a sylffidau), yn yr ail dabl—

(a) yn lle'r cofnodion ynghylch cramenogion a seffalopodau, rhodder y canlynol—

Crustaceans and cephalopods:
fresh, frozen and deep frozen 150*
crustaceans, Panaeidae, Solenoceridae, Aristaeidae family:
— [< =]80 units 150*
— > 80 units but [<=] 120 units 200*
— > 120 units 300*
Cooked 50*
cooked crustaceans, Panaeidae, Solenoceridae, Aristaeidae family:
— [<=] 80 units 135*
— > 80 units but [<=] 120 units 180*
— > 120 units 270*
* In edible parts

(b) yn lle'r ymadrodd “Starches (excluding starches for weaning foods, follow-on formulae and infant formulae)” rhodder “Starches (excluding starches in infant formulae, follow-on formulae and processed cereal-based foods and baby foods)”;

(c) ar ddiwedd y tabl ychwaneger y cofnodion canlynol —

Salsicha fresca 450
Table grapes 10
Fresh lychees 10 (measured on edible parts)

8.  Yn Atodlen 2 Rhan C (cadwolion eraill) mae'r tabl a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn wedi'i roi yn lle'r tabl ynghylch E 249, E 250, E 251 ac E 252.

9.  Yn Atodlen 2 Rhan D (gwrthocsidyddion eraill) mae'r tabl a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'i roi yn lle'r tabl.

10.  Yn Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir)—

(a) yn y cofnod ynghylch E 385 yn y drydedd a'r bedwaredd golofn (sy'n dwyn, yn ôl eu trefn, y teitlau “Food” a “Maximum level”), ychwaneger y cofnodion canlynol—

“Libamáj, egézben és tömbben 250 mg/kg

(b) ar ôl y cofnod ynghylch E967 mewnosoder y canlynol—

E 968 Erythritol Food in general (except drinks and those foods referred to in Article 2(3) of Directive 95/2/EC Quantum satis
Frozen and deep-frozen unprocessed fish, crustaceans, molluscs and cephalopods Quantum satis
Liqueurs Quantum satis
For purposes other than sweetening

(c) ar ôl y cofnod ynghylch E425 mewnosoder y canlynol—

E 426 Soybean hemicellulose Dairy-based drinks intended for retail sale 5 g/l
Food supplements 1.5 g/l
Emulsified sauces 30 g/l
Pre-packaged fine bakery wares intended for retail sale 10 g/kg
Pre-packaged ready-to-eat oriental noodles intended for retail sale 10 g/kg
Pre-packaged ready-to-eat rice intended for retail sale 10 g/kg
Pre-packaged processed potato and rice products (including frozen, deep-frozen, chilled and dried processed products) intended for retail sale 10 g/kg
Dehydrated, concentrated, frozen and deep-frozen egg products 10 g/kg
Jelly confectionery, except jelly mini-cups 10 g/kg

(ch) yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 468, yn lle'r ymadrodd “Solid dietary supplements”, rhodder “Food supplements supplied in solid form”;

(d) yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 338 i E 452, yn lle'r ymadrodd “Dietary supplements”, rhodder “Food supplements”;

(dd) yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 405, E 416, E 432 i E 436, E 473 ac E 474, E 475, E 491 i E 495, E 551 i E 559 ac E 901 i E 904, yn lle'r ymadrodd “Dietary food supplements”, rhodder “food supplements”;

(e) yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 1201 ac E 1202, yn lle'r ymadrodd “Dietary food supplements in tablet and coated form”, rhodder “Food supplements in tablet and coated form”;

(f) yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 405, E 432 i E 436, E 473 ac E 474, E 475, E 477, E 481 ac E 482, ac E 491 i E 495, yn lle'r ymadrodd “Dietetic foods intended for special medical purposes”, rhodder “Dietary foods for special medical purposes as defined in Directive 1999/21/EC”;

(ff) ym mhedwaredd golofn y cofnodion ynghylch E 1505 i E 1520, ar ôl yr ymadrodd “In the case of beverages,”, mewnosoder yr ymadrodd “with the exception of cream liqueurs,”;

(g) ar ddiwedd y tabl ychwaneger y cofnodion canlynol—

E 1204 Pullulan Food supplements in capsule and tablet form Quantum satis
Breath-freshening micro-sweets in the form of films Quantum satis
E 1452 Starch Aluminium Octenyl Succinate Encapsulated vitamin preparations in food supplements 35 g/kg in food supplement

11.  Yn Atodlen 4 (cariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir)—

(a) ar ôl y cofnod ynghylch E 967, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 968” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Erythritol”;

(b) ar ôl y cofnod ynghylch E 461, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 462” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Ethyl cellulose”;

(c) yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 551 ac E 552, ychwaneger yr ymadrodd “For E 551: in E 171 titanium dioxide and E 172 iron oxides and hydroxides (max. 90% relative to the pigment).”.

12.  Yn Atodlen 7 (bwydydd y caniateir i nifer cyfyngedig o ychwanegion amrywiol a restrir yn Atodlen 1 gael eu defnyddio)—

(a) yn lle'r cofnod ynghylch caws wedi aeddfedu, rhodder y canlynol—

Ripened cheese E 170 calcium carbonate quantum satis
E 504 Magnesium carbonates
E 509 Calcium chloride
E 575 Glucono-delta-lactone
E 500ii Sodium hydrogen carbonate quantum satis (only for sour milk cheese)

(b) yn y cofnod ynghylch “pain courant français”, yn y golofn gyntaf, ychwaneger yr ymadrodd “Friss búzankenyér, fehér és félbarna kenyerek”;

(c) yn y cofnod ynghylch “foie gras, foie gras entier, blocs de foie gras”, yn y golofn gyntaf, ychwaneger yr ymadrodd “Libamáj, libamáj egézben, libamáj tömbben”.

13.  Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach)—

(a) ym mharagraffau 1, 1A ac 1B o'r nodiadau rhagarweiniol, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder bob tro yr ymadrodd “processed cereal-based foods and baby foods”;

(b) yn Rhan 3 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd diddyfnu i fabanod a phlant bach y mae eu hiechyd yn dda),

(i) hepgor y cofnod ynghylch E 473; a

(ii) yn y man lle mae'n ymddangos yn y teitl ac yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 170 i E 526, E 500 i E 503, E 338, E 410 i E 440, E 1404 i E 1450, ac E 1451, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder “processed cereal-based foods and baby foods”.

(c) yn Rhan 4 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd deietegol i fabanod a phlant bach at ddibenion meddygol arbennig fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 1999/21/EC), ar ôl y cofnod ynghylch E 472c mewnosoder y cofnod canlynol—

E 473 Sucrose esters of fatty acids Products containing hydrolysed proteins, peptides and amino acids 120 mg/l

Diwygio Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995

14.—(1) Mae Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(8) wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a) yn y diffiniad o “Directive 94/35/EC”, yn lle'r ymadrodd “and by Directive 2003/115/EC”, rhodder “ and by European Parliament and Council Directives 2003/115/EC(9) and 2006/52/EC(10).”;

(b) yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC”, yn lle'r ymadrodd “and by Directive 2004/46/EC”, rhodder “and by Directives 2004/46/EC and 2006/128/EC(11).”.

(3) Yn Atodlen 1 (melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt neu arnynt)—

(a) yng ngholofn 1 ar ôl “E 967” ychwaneger “E 968”; a

(b) yng ngholofn 2 ar ôl “Xylitol” ychwaneger “Erythritol”.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

22 Ionawr 2008

(1)

1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990.

Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.

Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]

(3)

O.S. 1995/3187, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787, O.S. 2001/1440, O.S. 2002/329, O.S.2003/945, O.S. 2005/1311 ac O.S. 2005/3254. Back [3]

(4)

OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58. Back [4]

(5)

OJ Rhif L204, 26.7.2006, t.10. Back [5]

(6)

OJ Rhif L346, 9.12.2006, t.15. Back [6]

(7)

OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29. Back [7]

(8)

O.S. 1995/3123, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 1997/814, O.S. 2001/2679, O.S. 2002/330, O.S. 2003/1713, O.S. 2005/1156 ac O.S. 2005/3253. Back [8]

(9)

OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.65. Back [9]

(10)

OJ Rhif L204, 26.7.2006, t.10. Back [10]

(11)

OJ Rhif L346, 9.12.2006, t.6. Back [11]