31. Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb roi neu osod arno y modd adnabod sy'n ofynnol i brofi bod yr anifail wedi cael ei symud o'r daliad er mwyn cael triniaeth frys gan filfeddyg.
32.—(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn—
(a) casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a'i gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c) symud neu gadw unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch) cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;
(d) os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei ddangos ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith;
(dd) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau adnabod nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos;
(e) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol.
(2) Os yw'n ofynnol i berson wneud unrhyw beth i arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) rhaid iddo, oni fydd ganddo achos rhesymol, wneud hynny'n ddi—oed.
33.—(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud diadell o ddefaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran y ddiadell honno.
(2) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifre i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran yr eifre honno.
(3) Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.
34. Rhaid i berson beidio â rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.
35.—(1) Os dangosir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gan gorff corfforaethol—
(a) gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b) os priodolir ef i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn eu herbyn a'u cosbi yn unol â hynny.
(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol.
(3) ystyr “swyddog”, o ran corff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu berson sy'n cymryd arno ei fod yn gweithredu yn y cyfryw swydd.
36.—(1) Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod gorfodi dyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
37. Dirymir y canlynol—
(1) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(19); a
(2) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Cymru) 2006(20).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2008
Erthygl 23(6)
Erthygl 24(3)(a)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr a diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006, O.S. 2006/1036 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2926), gan newid gofynion adnabod domestig i adlewyrchu'r ffaith na fydd y DU bellach yn manteisio ar ran-ddirymiad o'r brif drefn dagio dwbl o dan Reoliad y Cyngor 21/2004.
Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn ymdrin ag adnabod anifeiliaid. Mae'n ei gwneud yn ofynnol gosod dau fodd adnabod ar gyfer anifail a gafodd ei adnabod neu ei fewnforio ar neu ar ôl 22 Ionawr 2008 ac y bwriedir ei allforio (erthyglau 5 a 9). Mae'n darparu ar gyfer anifeiliaid nas bwriadwyd eu hallforio ac y bwriadwyd eu cigydda o fewn 12 mis o'u genedigaeth i gael eu hadnabod â thag adnabod sengl (erthygl 6). Gellir parhau i adnabod anifeiliaid hŷn a gafodd eu hadnabod yn unigol â thag sengl cyn 22 Ionawr 2008 â thag sengl, ond ar y llaw arall rhaid aildagio'r rhai na chawsant hynny â dau dag adnabod (erthyglau 7 ac 8).
Mae Rhan 3 o'r Gorchymyn yn ymdrin â thagiau adnabod (diffinnir y term “tag adnabod” yn erthygl 2(1)) ac yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo tagiau adnabod (erthygl 11).
Mae Rhan 4 o'r Gorchymyn yn ymdrin â thynnu neu gyfnewid marciau adnabod. Mae'n gwahardd tynnu tagiau adnabod onid yw'n angenrheidiol am resymau lles (erthygl 14) ac addasu marciau adnabod (erthygl 22). Mae'n darparu ar gyfer cyfnewid marc adnabod a gafodd ei golli, ei dynnu neu sy'n annarllenadwy naill ai â modd adnabod yr un fath (erthygl 15) neu gyfnewid â modd adnabod sydd â chod gwahanol (erthyglau 16 i 19).
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth i bob ceidwad gynnal cofrestr daliad gyfoes, ac mae'n gosod yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi yn y gofrestr a pha bryd (erthygl 23 ac Atodlen 1).
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dogfen symud i fynd gyda phob anifail pan fydd yn symud rhwng daliadau (erthygl 24 ac Atodlen 2) ac mae'n pennu pa bryd ac i bwy y mae'n rhaid rhoi'r ddogfen iddo (erthygl 25).
Mae Rhan 7 yn gosod y gofyniad i geidwaid gadw stocrestr flynyddol (erthygl 26) a rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch ei ddaliad (erthygl 27) a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.
Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer dyrannu Rhif au lotiau i anifeiliaid mewn marchnad ac mae'n gwahardd prynu neu werthu anifeiliaid oni chaiff pob anifail o lot ei brynu neu ei werthu (erthygl 28).
Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion adnabod anifeiliaid a ddygir i Gymru o Aelod-wladwriaethau eraill neu o wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig (erthyglau 29 a 30).
Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau amrywiol a darpariaethau gorfodi. Mae erthygl 31 yn gosod amddiffyniad i'r methiant i adnabod anifail yn gywir mewn achos o driniaeth filfeddygol frys. Mae erthygl 32 yn rhoi pwerau amrywiol i arolygwyr ac mae erthygl 33 yn galluogi arolygwyr i wahardd symud diadell o ddefaid neu yr o eifr i ddaliad neu ohono. Mae erthyglau 34 a 35 yn ymwneud â darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ac â thramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol. Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn, neu Weinidogion Cymru os cyfarwyddir hynny (erthygl 36).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gellir cosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.