Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Cofrestri daliadau

Cofrestr y daliad

23.—(1) Rhaid i bob ceidwad, heblaw cludwr, gydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.

(2) Pan gaiff anifail ei symud i'w ddaliad neu ohono, rhaid i'r ceidwad gofnodi—

(a) yr wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a

(b) nifer yr anifeiliaid a symudwyd.

(3) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir i ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.

(4) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir o ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.

(5) Os yw anifail wedi'i draddodi ar gyfer ei allforio rhaid i geidwad y daliad tarddu, yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), gofnodi Rhif unigryw yr anifail hwnnw wrth gofnodi ei symud i'r daliad tarddu ac ohono, drwy'r dulliau a osodir ym mharagraffau (3) a (4) yn eu trefn.

(6) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1.

(7) Rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr—

(a) yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, neu o un lleoliad ar ddaliad i un arall, o fewn 36 awr i'r symud;

(b) yn achos cyfnewid marc adnabod, o fewn 36 awr i'r cyfnewid.

(8) Os yw'r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ond mae'n parhau i fod yn geidwad iddynt, nid oes raid i'r ceidwad gadw'r gofrestr ar y daliad hwnnw ond rhaid iddo allu ei dangos o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.

(9) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid sicrhau bod y gofrestr ar gael yw 3 blynedd o'r adeg pan wnaed y cofnod olaf.

RHAN 6 Dogfennau symud

Dogfen symud

24.—(1) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud yn unol â'r erthygl hon.

(2) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor ac at ddibenion yr Erthygl honno y cyfnod lleiaf y mae'n rhaid i'r ceidwad ar y daliad cyrchu gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i'w ddaliad ef.

(3) Rhaid i'r ddogfen symud—

(a) bod ar y ffurf a osodir yn Atodlen 2;

(b) cael ei llenwi'n gyflawn gan y ceidwad priodol fel a bennir yn y ffurf honno; ac

(c) yn ogystal â chynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, rhaid i'r ddogfen gael ei llenwi gan y ceidwad gyda'r wybodaeth yn Atodlen 2, gan gynnwys nifer yr anifeiliaid a symudwyd; ac

(ch) cael ei chadw yn ôl trefn gronolegol gydag unrhyw ddogfennau symud eraill a gedwir gan y ceidwad yn y daliad cyrchu.

(4) Caiff gweithredydd marchnad lenwi dogfen symud a gynhyrchwyd yn electronig ar ffurf wahanol i'r hyn a osodir yn Atodlen 2, ar yr amod ei bod—

(a) yn cynnwys yr wybodaeth yn Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor a pharagraff (3)(c) o'r erthygl hon;

(b) yn cynnwys cyfeiriad at y Gorchymyn hwn ar ddechrau'r ddogfen; ac

(c) wedi ei hargraffu a'i llofnodi gan weithredydd y farchnad.

Cyflenwi dogfen symud

25.—(1) Yn achos anifail a symudwyd i ddaliad arall—

(a) ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a

(b) rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.

(2) Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad i borthladd i'w draddodi'r tu allan i Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.

RHAN 7 Cronfa ddata ganolog

Stocrestr o anifeiliaid

26.—(1) At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr bob blwyddyn.

(2) Rhaid i geidwad ddarparu canlyniad y stocrestr flynyddol i Weinidogion Cymru erbyn 1 Chwefror bob blwyddyn.

Cyflenwi gwybodaeth

27.—(1) Ar ôl derbyn hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor bod person wedi dod yn geidwad ar ddaliad, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn perthynas â phob geifre ar y daliad.

(2) Lle bo'r daliad yn lladd-dy neu'n farchnad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre ond dim ond os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

(3) Rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod i unrhyw newid o'r fath.

RHAN 8 Marchnadoedd

Marchnadoedd

28.—(1) Rhaid i weithredydd marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.

(2) Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot cyfan o'r farchnad i'r un daliad.

(3) Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.

(4) Ni chaiff gweithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai—

(a) ei fod wedi'i adnabod yn unol â Rhan 2; a

(b) bod dogfen symud gyda'r anifail a gwblhawyd yn unol â Rhan 6.

RHAN 9 Anifeiliaid a ddygwyd i mewn i Gymru

Derbyn anifeiliaid o Aelod-wladwriaeth arall

29.  Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall oni bai ei fod wedi ei adnabod yn unol â—

(a) Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu

(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

30.  Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon oni bai bod yr anifail wedi ei adnabod a'i dagio a bod dogfen symud gydag ef yn unol â—

(a) yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu

(b) yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol sydd wedi eu gosod mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor o ran y cyfryw anifail.