Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Tagiau adnabod

Cymeradwyo tagiau adnabod

11.  Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo tagiau clust at ddibenion y Gorchymyn hwn.

Tagiau ychwanegol a thagiau â gwybodaeth ychwanegol

12.—(1) Ar gais ceidwad, caiff gweithgynhyrchydd tagiau adnabod ychwanegu gwybodaeth atodol at dag adnabod neu dag cyfnewid ar yr amod—

(a) bod yr wybodaeth atodol yn gwbl wahanol i'r cod adnabod; a

(b) bod y cod adnabod yn parhau'n ddarllenadwy ac y gellir ei weld yn eglur bob amser.

(2) Caiff ceidwad osod tag ychwanegol ar anifail ond rhaid iddo beidio â chynnwys y llythrennau “UK” na dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre, onis awdurdodir gan Weinidogion Cymru.

Tagiau clust coch

13.  Ni chaiff neb osod tag clust coch ar unrhyw anifail, ar wahân i dag cyfnewid.

RHAN 4 Tynnu neu gyfnewid marciau adnabod

Tynnu neu gyfnewid marciau adnabod

14.—(1) Ni chaiff neb dynnu neu gyfnewid dull adnabod gwreiddiol anifail sy'n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.

(2) Ni chaiff neb fynd yn groes i neu fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, onid yw'n unol ag erthyglau 16 i 19.

(3) Rhaid i geidwad gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 15 i 19, cyn gynted â phosibl ar ôl tynnu'r marc adnabod neu ddarganfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, ond beth bynnag a ddigwyddo—

(a) dim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl ei dynnu neu ddarganfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, a

(b) cyn bod yr anifail yn cael ei symud o'r daliad.

(4) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o dramgwydd iddo fynd yn groes i groes i baragraffau (1) neu (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy brofi bod—

(a) y marc adnabod wedi cael ei dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a

(b) y gosodwyd modd adnabod o'r newydd sy'n dwyn yr un cod adnabod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.

Cyfnewid marciau adnabod â chod yn union yr un fath

15.  Os yw'n ofynnol i geidwad yn ôl erthygl 14(3) i gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy caiff wneud hynny gyda modd adnabod sydd â chod adnabod yn union yr un fath ac yn yr achos hwnnw rhaid iddo gofnodi'r wybodaeth am y cyfnewid yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

Cyfnewid marciau adnabod â chod gwahanol

16.—(1) Caiff ceidwad, fel dewis amgen i'r dull cyfnewid a ddisgrifir yn erthygl 15, yn lle hynny gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod sy'n dwyn cod adnabod gwahanol i'r marc adnabod gwreiddiol yn unol ag erthyglau 17 i 19, ar yr amod na chyfaddawdir yr amcan o allu olrhain.

Cyfnewid y marc adnabod â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau dwbl sydd wedi colli un marc adnabod

17.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo un marc adnabod gan anifail â ffurf adnabod dwbl ar goll neu'n annarllenadwy ond bod un marc adnabod yn parhau.

(2) Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 18 ystyr “anifail â ffurf adnabod dwbl” yw anifail sy'n cael ei adnabod â dau farc adnabod.

(3) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad gyfnewid modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod arall ac—

(a) sicrhau bod o leiaf un modd adnabod neu fodd adnabod hŷn ar anifail yn dag clust; a

(b) cofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod yn llawn ar y tagiau cyfnewid yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

(4) Os nad yw'r anifail bellach ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd ac—

(a) sicrhau bod o leiaf un marc adnabod ar anifail yn dag clust; a

(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

(c) cofnodi llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod sy'n dal yno neu'r modd adnabod hyn, neu'r cod llawn ar ddull adnabod yng ngholofn 3 o adran 2 o'r gofrestr.

Cyfnewid y marc adnabod â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau dwbl sydd wedi colli'r ddau farc adnabod

18.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo'r ddau farc adnabod gan anifail â ffurf adnabod dwbl ar goll neu'n annarllenadwy.

(2) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad—

(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag adnabod newydd neu dag adnabod a thatŵ; a

(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1, 2 a 3 o adran 2 o'r gofrestr.

(3) Os bydd nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre ar anifail neu'r cod ar fodd adnabod o'r newydd ar goll neu'n annarllenadwy yn hysbys ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad geni, rhaid i'r ceidwad naill ai—

(a) cyfnewid y marciau adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag cyfnewid neu â thag cyfnewid a thatŵcyfnewid ac—

(i) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr; a

(ii) cofnodi yng ngholofn 3 o adran 2 o'r gofrestr

(aa) os yw'n hysbys, llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod neu'r modd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy, neu'r cod llawn ar ddull adnabod; neu

(bb) os nad yw'r pethau hyn yn hysbys, llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod o'r newydd sydd ar goll neu'n annarllenadwy; neu

(b) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag adnabod sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre o ddaliad geni'r anifail.

(4) Os nad yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys, rhaid i'r ceidwad:

(a) cyfnewid y marciau adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag cyfnewid neu â thag cyfnewid a thatw cyfnewid; a

(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

Cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau sengl

19.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo modd adnabod neu fodd adnabod hŷn gan anifail â ffurf adnabod sengl ar goll neu'n annarllenadwy.

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “anifail â ffurf adnabod sengl” yw—

(a) anifail sy'n cael ei adnabod yn unol â pharagraffau (1) a (2) neu erthygl 6 o ddarpariaethau tebyg sy'n rhoi effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(b) anifail sy'n cael ei adnabod gydag un modd adnabod hyn yn unig a osodwyd o dan Orchmynion blaenorol.

(3) Os bydd ceidwad yn cyfnewid tag sydd ar goll neu'n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod o'r newydd fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.

(4) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad—

(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod newydd; a

(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

(5) Os yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad geni, rhaid i'r ceidwad naill ai—

(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd a—

(i) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o gofrestr y daliad; a

(ii) cofnodi llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol neu'r modd adnabod hŷn, yng ngholofn 3 o'r gofrestr; neu

(b) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â thag adnabod sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre o ddaliad geni'r anifail.

(6) Os nad yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys, rhaid i'r ceidwad—

(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd; a

(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.

Cyfnewid marciau adnabod a gollwyd mewn marchnadoedd

20.—(1) Nid yw gofynion erthyglau 14 i 19 i gyfnewid marc adnabod yn gymwys i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy.

(2) Os caiff marc adnabod ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bod anifail yn y farchnad, rhaid i'r ceidwad sy'n prynu'r anifail yn y farchnad osod marc adnabod o'r newydd yn unol â darpariaethau erthyglau 14 i 19.

Colli dulliau adnabod a osodwyd mewn trydydd gwledydd

21.  Os caiff anifail ei fewnforio o drydedd gwlad a'i aildagio yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw'n ofynnol i'r ceidwad gyfnewid dull adnabod a osodwyd mewn trydedd gwlad os yw wedyn yn mynd ar goll neu'n annarllenadwy.

Addasu tagiau adnabod

22.  Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi ei osod ar anifail o dan—

(a) Rheoliad y Cyngor;

(b) y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c) y Gorchmynion blaenorol; neu

(ch) Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.