5.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i—
(a) anifeiliaid a anwyd cyn 22 Ionawr 2008 na chafodd eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad geni; a
(b) anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 22 Ionawr 2008.
(2) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon onis awdurdodir y dull adnabod amgen a osodir yn erthygl 6.
(3) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—
(a) 9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu
(b) 6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.
(4) Caniateir i dag clust a osodir fel y modd adnabod cyntaf neu'r ail fodd adnabod fod mewn unrhyw liw heblaw coch.
(5) Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—
(a) y llythrennau “UK”;
(b) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei eni; ac
(c) Rhif unigryw;
a rhaid iddynt fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.
6.—(1) Ar gyfer anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda cyn 12 mis oed ac nas bwriadwyd ar gyfer eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen i'r modd adnabod y cyfeirir ato yn erthygl 4(2) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yn union yr un fath â'r hyn a osodir yn is-baragraffau (a) i (c) o erthygl 5(5).
(3) Rhaid i unrhyw anifail sy'n cael ei adnabod drwy'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) (“y tag adnabod cyntaf”), gael ei adnabod drwy ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)—
(a) os na chafodd ei gigydda cyn ei fod yn 12 mis oed; neu
(b) os traddodwyd ef ar gyfer ei allforio.
(4) Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai—
(a) yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, gyda'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu
(b) yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn—
(i) y llythrennau “UK”;
(ii) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y modd adnabod ychwanegol; a
(iii) Rhif unigryw.
(5) Os gosodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad—
(a) beidio â thynnu na difwyno'r tag adnabod cyntaf;
(b) cofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.
(6) Yn achos anifeiliaid a draddodir ar gyfer eu hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad tarddu.
7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid sy'n cael eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008.
(2) Dim ond y modd adnabod cyntaf, fel a osodir yn erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor, sy'n ofynnol ar gyfer anifeiliaid a gafodd eu hadnabod â Rhif unigryw cyn 22 Ionawr 2008.
(3) Yn achos anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008, ond pan nad yw'r marc adnabod presennol yn cynnwys Rhif unigryw, rhaid i geidwad ailadnabod yr anifeiliaid hynny cyn eu symud o ddaliad fel eu bod yn dwyn dau fodd adnabod—
(a) yn achos anifail sydd ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn unol â'r darpariaethau yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor; neu
(b) yn achos anifail nad yw ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn ddau dag cyfnewid, ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod yn llawn ar y tagiau cyfnewid a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod blaenorol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.
8. Rhaid i'r ceidwad adnabod anifeiliaid na chawsant eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008 nad ydynt mwyach ar eu daliad geni gyda dau dag cyfnewid cyn i'r anifeiliaid adael daliad.
9.—(1) Rhaid i geidwad adnabod pob anifail ar gyfer ei allforio drwy'r modd adnabod cyntaf a'r ail fodd adnabod fel a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor neu erthygl 6(4)(b), ac eithrio bod yn rhaid i'r ail fodd adnabod fod yn dag adnabod ac nid yn datw.
(2) Ni chaiff neb draddodi anifail af gyfer ei allforio-
(a) os cafodd ei dagio yn unol ag erthygl 8;
(b) os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 7(3)(b), 18(3)(a), 18(4)(a) 19(5)(a) neu 19(6)(a); neu
(c) os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 17(4) ac o ganlyniad caiff ei adnabod drwy ddau fodd adnabod o'r newydd.
10.—(1) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2) At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.
(3) Rhaid i fodd adnabod ar gyfer anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd fod yr un fath â'r hyn a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad yw—
(a) y llythrennau “UK”;
(b) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei fewnforio iddi;
(c) Rhif unigryw.
(4) Os cafodd anifail ei fewnforio o drydedd gwlad a chael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon, rhaid i'r ceidwad gofnodi ychwanegu modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod newydd a'r cod adnabod llawn ar y dull adnabod a osodir yn y drydedd gwlad yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.