1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 22 Ionawr 2008.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o rywogaeth y ddafad neu'r afr;
ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “canolfan ymgynnull” (“assembly centre”) yw unrhyw ddaliad, canolfan gasglu neu farchnad lle y mae defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau wedi'u grwpio ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu hallforio neu a ddefnyddir yn ystod allforio;
mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw'r cod a osodir ar fodd adnabod fel sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor ac sydd yn y ffurf a osodir y Atodlen 1;
ystyr “colofn 1 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 1 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Dyddiad gosod y tag cyfnewid” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr “colofn 2 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 2 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Rhif Tag Cyfnewid (R)” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr “colofn 3 o adran 2 o'r gofrestr” (“column 3 of section 2 of the register”) yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd “Llythrennau a Rhif Blaenorol Diadell neu Eifre (os yw'n hysbys)” yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr “CPH” (“CPH”) yn y ffurfiau yn Atodlenni 1 a 2, yw Rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a neilltuir i unrhyw fangre neu ran o fangre gan Weinidogion Cymru;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(3);
mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “y daliad tarddu” (“holding of origin”) yw'r daliad lle yr oedd yr anifail yn bresennol arno yn union cyn symud i ganolfan ymgynnull neu, os traddodir anifail ar gyfer ei allforio heblaw drwy ganolfan ymgynnull, y daliad lle y mae anifail yn bresennol arno yn union cyn ei allforio;
ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust neu datŵa osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd gwlad;
ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw —
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(4);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) (Diwygio) 2002(5);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(6);
Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(7);
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(8);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(9);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(10);
Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(11);
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(12);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(13));
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(14));
Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod a Gallu Olrhain) (Yr Alban) 2006(15));
Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(16)); neu
Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(17);
ystyr “gweithredydd lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy'n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr “gweithredydd marchnad” (“market operator”) yw person sy'n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd hŷn o adnabod;
ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw tag adnabod neu datŵadnabod;
ystyr “modd adnabod o'r newydd” (“replacement means of identification”) yw tag cyfnewid neu datŵcyfnewid;
ystyr “modd hŷn o adnabod” (“older means of identification”) yw tag clust neu datŵa osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol;
ystyr “nod y ddiadell” (“flockmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;
ystyr “nod yr eifre” (“herdmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran geifre ar ddaliad;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(18);
ystyr “Rhif unigryw” (“unique number”) yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw'n cynnwys mwy na 6 digid;
ystyr “tag adnabod” (“identification tag”) yw tag clust a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 sy'n dwyn yr wybodaeth a roddir yn is-baragraffau (a) i (c) yn erthygl 5(5);
ystyr “tag cyfnewid” (“replacement tag”) yw tag clust coch a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—
y llythrennau “UK”;
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tag adnabod;
Rhif unigryw; ac
y llythyren “R”;
ystyr “tatŵcyfnewid” (“replacement tattoo”) yw tatŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—
y llythrennau “UK”;
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tatŵ;
Rhif unigryw; ac
y llythyren “R”.
(2) Mae gan yr ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) ac mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
3. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
4. Rhaid i unrhyw awdurdodi neu gymeradwyo a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu trwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.32. Back [3]
O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987. Back [4]
O.S. 2002/2153, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/29, O.S. 2003/502 ac O.S. 2003/1728. Back [5]
O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 ac O.S. 2002/1349. Back [6]
O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281. Back [7]
O.S. 2006/1036 (Cy. 106) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2926 (Cy. 261). Back [8]
O.S. 2002/2302 (Cy. 227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27), O.S. 2003/946 (Cy. 127) ac O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [9]
O.S. 2002/1357 (Cy. 133). Back [10]
O.S. 2002/274 (Cy.30), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/811 (Cy.91). Back [11]
Rh.St. 2005/535 (GI) a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 2006/508. Back [12]
Rh.St. (GI) 2004 Rhif 491. Back [13]
Rh.St. (GI) 1997 Rhif 173, a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 1998 Rhif 393. Back [14]
O.S.A. 2006/73 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2006/594. Back [15]
O.S.A 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221. Back [16]
O.S.A. 2000/418, a ddiwygiwyd gan O.S.A 2002/531 ac O.S.A. 2002/39. Back [17]
OJ Rhif L 5, 9.1.04, t. 8 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn. Back [18]