Rheoliad 4
Rheoliad 7
| (1) | (2) | (3) | (4) | (5) |
|---|---|---|---|---|
| Eitem Rhif | Tramgwydd o dan Ddeddf 1991 | Disgrifiad cryno | Swm y gosb | Swm disgownt |
| 1. | Tramgwydd o dan adran 54(5). | Methiant i gydymffurfio â dyletswyddau o dan a.54 (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol, etc.). | £120. | £80. |
| 2. | Tramgwydd o dan adran 55(5). | Dechrau ar y gwaith yn groes i a.55 (hysbysiad o ddyddiad dechrau). | £120. | £80. |
| 3. | Tramgwydd o dan adran 55(9)(4). | Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.55(8) (hysbysiad i'w roi pan fydd hysbysiad a.55 yn peidio â bod yn effeithiol). | £120. | £80. |
| 4. | Tramgwydd o dan adran 57(4). | Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.57 (hysbysiad o waith brys). | £120. | £80. |
| 5. | Tramgwydd o dan adran 70(6) sy'n golygu methiant i gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4A)(5). | Methiant i gydymffurfio â gofynion i roi hysbysiad o gwblhau gwaith adfer. | £120. | £80. |
| 6. | Tramgwydd a grëwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 74(7B). | Methiant i roi hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliadau o dan a.74 (tâl am feddiannu priffordd pan fu oedi afresymol yn y gwaith). | £120. | £80. |
Rheoliad 10
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae adran 41 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac Atodlenni 2 a 3 iddi, yn mewnosod adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (“Deddf 1991”). Mae hyn yn darparu bod tramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991 yn dod yn dramgwyddau cosbau penodedig ac yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud ynglŷn â hwy.
Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008 yn gwneud darpariaeth gyffredinol o ran Cymru ynghylch cosbau penodedig am dramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991.
Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 3 yn rhwystro rheolwyr stryd (yr awdurdod stryd dros stryd nad yw'n briffordd a gynhelir) rhag rhoi hysbysiadau cosbau penodedig ynglŷn â stryd o'r fath.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad o gosb benodedig.
Mae rheoliad 5 yn gosod y dull o gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig a hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig, ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad drwy gyfathrebu electronig.
Mae rheoliad 6 yn pennu na chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd, sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflawnir ef.
Mae rheoliad 7 ac Atodlen 2 yn gosod manylion y tramgwyddau cosbau penodedig ac yn rhagnodi ynglŷn â phob tramgwydd, y bydd y gosb yn £120 oni thelir y swm o £80 cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm disgownt.
Mae rheoliad 8 yn addasu Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (yn ei chymhwysiad o ran Cymru) drwy roi cyfnod o 36 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 29 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu cosb benodedig, a thrwy roi cyfnod o 29 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 15 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu swm disgownt yn hytrach na'r gosb lawn.
Mae rheoliad 9 yn galluogi awdurdod stryd i ddidynnu'r costau am ddyroddi a gweinyddu hysbysiadau cosbau penodedig o'r cosbau a dderbynnir ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw enillion net gael eu cymhwyso i roi polisïau trafnidiaeth penodol ar waith o ran eu hardal.
Mae rheoliad 10 ac Atodlen 3 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan Is-adran Rheoli Rhwydwaith Ffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm
Mewnosodir is-adrannau (8) a (9) o adran 55 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 49(2). Back [4]
Amnewidir adran 70(3) a mewnosodir adran 70(4A) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 54(3). Back [5]