Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 102 (Cy.15)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Ionawr 2008

Yn dod i rym

12 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(2), 95A(5), 97 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a pharagraffau 2, 4(1), 5(2), 8(a) a 9(b) o Atodlen 4B iddi(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008. Deuant i rym ar 12 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru .

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;

mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991; ac

ystyr “tramgwydd” (“offence”) yw tramgwydd cosb benodedig.

Eithriadau

3.  Nid yw adran 95A(1) o Ddeddf 1991 ac Atodlen 4A iddi (tramgwyddau cosbau penodedig o dan Ran 3) yn gymwys i stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.

Ffurf ar hysbysiad o gosb benodedig

4.  Rhaid i hysbysiad o gosb benodedig fod yn y ffurf a osodir yn Atodlen 1.

Dull cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig neu gyflwyno hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig

5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), os bydd person—

(a) wedi rhoi i awdurdod stryd gyfeiriad ar gyfer cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 iddo (cosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau penodol o dan Ran 3) drwy ddefnyddio dull penodol ar gyfer trosglwyddo cyfathrebiad electronig; a

(b) heb hysbysu'r awdurdod bod y cyfeiriad wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,

rhaid rhoi'r cyfryw hysbysiad drwy ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r dull hwnnw, yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (3).

(2) Yn unrhyw arall achos, rhaid rhoi hysbysiad o dan yr Atodlen honno—

(a) drwy ei anfon drwy'r post dosbarth cyntaf at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol;

(b) drwy ei draddodi iddo;

(c) drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu

(ch) drwy unrhyw ddull arall y cytunir arno gydag ef.

(3) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad—

(a) allu cael ei gyrchu gan y person yr anfonir ef ato;

(b) bod yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c) ar ffurf sy'n caniatáu y gellir cadw'r hysbysiad er mwyn cyfeirio ato yn nes ymlaen,

ac i'r diben hwn ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei roi iddo drwy gyfrwng hysbysiad ar ffurf brintiadwy.

(4) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebu electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan y cyfarpar trosglwyddo fel y diwrnod a'r amser pan gwblhawyd y trosglwyddiad yn foddhaol.

(5) Os, ar ôl tri chais (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud y cyflwyno'n effeithiol drwy ddefnyddio un dull penodol i drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y dylid ei roi iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad ar gael iddo yn rhinwedd paragraff (1) neu drwy unrhyw ddull arall y cyfeirir ato ym mharagraff (2).

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 i'w roi iddo, yw—

(a) os yw'r cyfryw berson wedi rhoi i'r awdurdod stryd sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer gwasanaeth post o hysbysiadau o'r fath, y cyfeiriad hwnnw; a

(b) fel arall

(i) yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestru neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a

(ii) mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.

(7) Caiff person roi cyfeiriadau gwahanol ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthiadau o hysbysiad.

Terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o gosb benodedig

6.  Ni chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig am dramgwydd mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cyflawnir ef.

Swm y gosb

7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd hysbysiad o gosb benodedig wedi'i rhoi ynglyn â thramgwydd a nodir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3 o'r Tabl hwnnw, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd y swm a nodir ynglŷn ag ef yng ngholofn 4.

(2) Os, ynglyn â thramgwydd o'r fath, caiff taliad ei wneud cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff 5(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, neu os na fydd diwrnod olaf y cyfnod yn digwydd ar ddiwrnod gwaith, cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol yn unol â pharagraff 5(3) o'r Atodlen honno, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd yn hytrach y swm a nodir, ynglyn ag ef, yng ngholofn 5.

Addasu Atodlen 4B

8.—(1) Addesir Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (wrth ei chymhwyso o ran Cymru) fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 4(2) yn lle “29” rhodder “36”.

(3) Ym mharagraff 5(1) yn lle “15” rhodder “29”.

Cymhwyso cosbau

9.  Caniateir i awdurdod stryd ddidynnu o'r cosbau penodedig a dderbynnir o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991, y costau rhesymol am weithredu'r cynllun y telir hwy oddi tano, a rhaid iddo ddefnyddio'r enillion net at ddibenion datblygu neu roi ar waith bolisïau ar gyfer hybu ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithiol ac yn economaidd i'w ardal, o'i ardal ac yn ei ardal.

Ffurf o hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig

10.  Os rhoddir hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, rhaid iddo fod ar y ffurf a osodir yn Atodlen 3.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

17 Ionawr 2008

(1)

1991 p.22. Mewnosodir adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) (“Deddf 2004”), adran 41 ac Atodlenni 2 a 3. Diwygir adran 97 yn rhagolygol gan adran 64(4) o'r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraff 26 o Atodlen 11 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Trysorlys i arfer swyddogaethau o dan baragraff 8(a) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991. Back [1]

(2)

Trosgwlyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio'r swyddogaethau o dan a.167(3)) o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 1991 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158. Back [3]