Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 14, 15 a 16

YR ATODLEN GWEITHDREFNAU AR GYFER DYNODIADAU O DAN ADRANNAU 61, 63 A 64 A THYNNU DYNODIADAU O'R FATH YN ÔL

RHAN 1

Dynodi strydoedd yn strydoedd a warchodir

1.  Cyn dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyhoeddi hysbysiad o'u bwriad i wneud y dynodiad ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

2.  Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn.

3.  Rhaid i'r awdurdod strydoedd roi copi o'r hysbysiad hwnnw, heb fod yn ddiweddarach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad,—

(a) i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;

(b) i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;

(c) i feddianwyr neu feddianwyr honedig unrhyw dir sy'n gyffiniol â'r stryd;

(ch) i unrhyw Weithrediaeth Trafnidiaeth i Deithwyr neu unrhyw awdurdod trafnidiaeth arall dros yr ardal lle mae'r stryd wedi'i lleoli;

(d) i Brif Swyddog yr Heddlu, y Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru Gwasanaethau yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac

(dd) i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig o dan adran 61.

4.  Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.

5.  Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 3 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal cyn gwneud y dynodiad.

6.  Pan fo ymchwiliad lleol wedi cael ei gynnal rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiadau ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.

RHAN 2

Dynodi strydoedd yn rhai ag iddynt anawsterau peirianyddol arbennig neu yn rhai sy'n sensitif i draffig

7.  Cyn dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu yn un sy'n sensitif i draffig yn unol â rheoliad 16(1), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i fwriad i wneud y dynodiad

(a) i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;

(b) i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;

(c) unrhyw Weithrediaeth Trafnidiaeth i Deithwyr neu unrhyw awdurdod trafnidiaeth arall dros yr ardal lle mae'r stryd wedi'i lleoli;

(ch) i Brif Swyddog yr Heddlu, Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru Gwasanaethau yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; a

(d) i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig.

8.  Rhaid i'r hysbysiad bennu—

(a) cyfnod, nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn. a

(b) yn achos hysbysiad a roddir at ddibenion rheoliad 16(1), pa rai o'r meini prawf a osodir yn rheoliad 16(2) a fodlonir o ran y stryd.

9.  Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.

10.  Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 7 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiad cyn gwneud y dynodiad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.

RHAN 3

Hysbysiad o ddynodiad

11.  Rhaid i awdurdod strydoedd roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i ddynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig i unrhyw ymgymerwr y rhoddodd gopi o hysbysiad iddo o dan baragraff 3(a), neu, yn ôl y digwydd, hysbysiad o dan baragraff 7(a).

RHAN 4

Tynnu dynodiad yn ôl a chofnodi penderfyniadau

12.  Ar ôl ymgynghori â phob person sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol, caiff awdurdod strydoedd dynnu'n ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd sy'n sensitif i draffig neu, yn ddarostyngedig i adran 63(4), yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig, ar unrhyw adeg.

13.  Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol neu unrhyw berson arall sydd ym marn yr awdurdod â buddiant digonol wneud sylwadau i'r awdurdod strydoedd yn gofyn iddo dynnu'r dynodiad yn ôl. Rhaid i'r awdurdod ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau o'r fath cyn penderfynu ei dynnu yn ôl ai peidio.

14.  Os yw awdurdod strydoedd yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad ei fod wedi'i dynnu'n ôl ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

15.  Pan fo rheolwr strydoedd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo hysbysu'r awdurdod priffyrdd.

16.  Pan fo awdurdod priffyrdd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl, neu yn cael ei hysbysu gan reolwr strydoedd yn unol â pharagraff 15, rhaid i'r awdurdod

(a) hysbysu deiliad y consesiwn ar y pryd sydd â'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r Rhestr Strydoedd Genedlaethol; a

(b) cofnodi'r cyfryw benderfyniadau ar y gofrestr gwaith stryd,

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag, o fewn mis.