Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

7.—(1) Person—

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; ac

(ch) nad oedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

8.  Person—

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol oherwydd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros

4.—(1) Person—

(a) sy'n ffoadur;

(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(2) Person—

(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(3) Person—

(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu bartner sifil i ffoadur;

(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

5.—(1) Person—

(a) sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Person—

(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(3) Person—

(a) sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1) Person—

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol—

(i) yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv) yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;

(v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi) yn aelod o deulu person ym mharagraff (iv) neu (v);

(b) sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person—

(a) sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(c) sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(16), fel y'i hymestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1) Person—

(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b) sydd wedi gadael y Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d) a oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio ac y mae'n un o'i gwladolion neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn un o'i gwladolion.

Gwladolion y GE

9.—(1) Person—

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai—

(i) yn un o wladolion y GE; neu

(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

10.  Person—

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn un o wladolion y GE ac eithrio'n un o wladolion y Deyrnas Unedig;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch) a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a) sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â'r hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch) mewn achos lle y bu ei breswyliaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, person oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a) a oedd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd ar y dyddiad perthnasol;

(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod perthnasol; ac

(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(16)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE1968 (ii) t.475). Back [16]