33.—(1) Cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 3, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
34.—(1) Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso—
(a) yn achos myfyriwr Coleg Ewrop yn unol â rheoliad 35; a
(b) yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn unol â rheoliad 36.
35.—(1) Yn achos myfyriwr Coleg Ewrop, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 20(3);
(b) yn ail—
(i) yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa) swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;
(bb) swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 30; ac
(cc) swm unrhyw grant ar gyfer bwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(4);
(ii) mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant at fwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(4);
(c) yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(5);
(ch) yn bedwerydd, i ostwng swm y grant at deithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(6);
(d) yn bumed, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 20(7).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 20(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
36.—(1) Yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—
(a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(3);
(b) yn ail—
(i) yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa) swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;
(bb) swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 30; ac
(cc) swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(4);
(ii) mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(4);
(c) yn drydydd, swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(5).
(ch) yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 22(6).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 22(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
37.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w gael hyd oni fydd cais dilys am daliad wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y taliadau grant at ffioedd i'r awdurdodau academaidd yn y rhandaliadau ac ar yr adegau y maent o'r farn eu bod yn briodol.
38.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w cael yn y rhandaliadau ac ar yr adegau sy'n briodol yn eu barn hwy.
(2) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy'n daladwy o dan reoliad 20(4) neu reoliad 22(3) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.
(3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro mewn cysylltiad â'r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.
(4) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 15(a) neu yn rheoliad 15(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn peidio â bod yn bresennol ar ei gwrs onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—
(a) am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu
(b) am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
39.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth yr awdurdod academaidd unrhyw ordaliad o grant at ffioedd.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2008
Amended by correction slip on 01 March 2008