(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1273) (Cy.130) (“Rheoliadau 2008”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008.
Mae Rheoliadau 4 i 7, 9 i 11, 13, 14, 25 a 27(ch) ac (ng) yn ymdrin â gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2008.
Mae rheoliadau 8, 12, 15 ac 16 yn diwygio rheoliadau 23, 38, 56 a 59 o Reoliadau 2008. Mae'r darpariaethau hynny yn Rheoliadau 2008 yn darparu ar gyfer grantiau a benthyciadau at gostau byw i fyfyrwyr amser-llawn cymwys, ynghyd â thalu'r cyfryw grantiau a benthyciadau. Mae rheoliadau 23 a 38 o Reoliadau 2008 wedi'u diwygio gan reoliadau 8 a 12 o'r Rheoliadau hyn fel y bydd myfyriwr, pan fo'n treulio rhan o flwyddyn academaidd yn y carchar, bydd ganddo hawl i gael grantiau a benthyciadau, sydd wedi'u dosrannu pro rata ar sail ddyddiol, at gostau byw ar gyfer y diwrnodau pan na fydd yn y carchar. Mae rheoliadau 56 a 59 o Reoliadau 2008 wedi'u diwygio gan reoliadau 15 ac 16 o'r Rheoliadau hyn fel bod Gweinidogion Cymru yn cael talu grant neu fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag un o ddiwrnodau blwyddyn academaidd pan yw'r myfyriwr yn garcharor, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n briodol yn yr holl amgylchiadau. Wrth benderfynu a fyddai'n briodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs.
Mae rheoliadau 17 a 23 yn diwygio rheoliadau 67 a 82 o Reoliadau 2008 fel bod y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm ac a gyflwynwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2007 yn cael ei ychwanegu at y rhestr o fudd-daliadau sy'n destun prawf moddion ar gyfer myfyrwyr amser-llawn sy'n dysgu o bell a myfyrwyr rhan-amser. Mae'r diwygiadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2008 i gyd-fynd â dyfodiad i rym Rhan 1 o'r Ddeddf 2007 honno.
Mae rheoliadau 18 i 22 a 24 i 29 yn diwygio Rhan 12 o Reoliadau 2008, sy'n darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys. Mae rheoliad 24 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau newydd, sef rheoliadau 83A i 83G, yn Rhan 12 o Reoliadau 2008.
Mae'r rheoliadau newydd hynny'n darparu y caiff myfyrwyr rhan-amser cymwys ymgymhwyso i gael cymorth ar ffurf grantiau ar gyfer dibynyddion, sef grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni (“grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion”). Mae meini prawf yr hawl i gael y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn debyg i'r meini prawf i gael y cymorth cyfatebol ar gyfer myfyrwyr amser-llawn cymwys, sy'n daladwy o dan reoliadau 26 i 29 o Reoliadau 2008. Mae rheoliad 83Dd newydd yn darparu ar gyfer ymgymryd â chyfrifiadau cychwynnol mewn perthynas â'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ac mae rheoliad 83Ff newydd yn darparu bod caniatâd i wneud didyniadau o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion. Cyfrifir didyniadau o'r fath yn unol â'r Atodlen 6 newydd i Reoliadau 2008, a fewnosodir gan reoliad 31 o'r Rheoliadau hyn. Gwneir unrhyw ddidyniadau o'r fath yn unol â rheoliad 83I newydd. Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag un elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ôl dwysedd yr astudiaeth ranamser, ar sail pro rata, fel y'i penderfynir drwy reoliad 83G newydd.
Mae rheoliadau 25 i 29 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ran 12 o Reoliadau 2008 o ganlyniad i fewnosod rheoliadau 83A i 83G newydd.
Mae rheoliad 30 yn estyn cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ond a ymadawodd â Chymru ac a arferodd hawl i breswylio yn yr AEE neu'r Swistir ac a ddychwelodd wedi hynny i'r Deyrnas Unedig i astudio mewn sefydliad addysg uwch.