Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1286 (Cy.135)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

13 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mai 2008

Yn dod i rym

12 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008. Daw i rym ar 12 Mehefin 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006

2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006(3) wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (2).

(2) Yn erthygl 5, yn lle “30 Mehefin 2008”, rhodder “30 Mehefin 2009”.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

13 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”).

Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn 2006, drwy newid y dyddiad, pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun trafnidiaeth lleol sy'n gymwys gael ei ddisodli, o 30 Mehefin 2008 i 30 Mehefin 2009.

Mae'r diwygiad yn angenrheidiol oherwydd yr oedi cyn cyhoeddi'r fersiwn derfynol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae'n ofynnol i gynlluniau trafnidiaeth lleol fod yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac yn ofynnol iddynt ei rhoi ar waith, ac felly ni ellir eu cwblhau hyd nes y cyhoeddir Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006 p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2006/2993 (Cy.280). Back [3]