Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1275 (Cy.132)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008

Gwnaed

8 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mai 2008

Yn dod i rym

3 Mehefin 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 3 Mehefin 2008.

Dehongli cyffredinol

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw famal;

ystyr “anifeiliaid hela gwyllt” (“wild game”) yw anifail gwyllt sy'n cael ei hela i'w fwyta gan bobl;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd felly gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan driniaeth” (“treatment centre”) yw mangre a ddynodwyd o dan reoliad 5 at ddibenion trin cig o dan un o'r triniaethau a restrir yn Atodlen 2;

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

(a)

trelar, lled-drelar neu rywbeth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;

(b)

rhan o unrhyw gerbyd y gellir ei datgysylltu;

(c)

cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei gario ar gerbyd;

ystyr “cig” (“meat”) yw unrhyw ran o garcas naill ai anifail neu ddofednyn a fwriadwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys cynnyrch sy'n deillio o brosesu cig o'r anifail neu'r dofednyn hwnnw neu gynnyrch sy'n deillio o brosesu pellach y cyfryw gynnyrch cig a broseswyd;

ystyr “cigydda” (“slaughter”) yw lladd ar gyfer cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl ond nid yw'n cynnwys lladd anifeiliaid hela gwyllt;

ystyr “clefyd” (“disease”) yw unrhyw un o'r canlynol: clwy clasurol y moch; clwy Affricanaidd y moch; clefyd pothellog y moch; rinderpest; pla'r defaid a'r geifr, clefyd Newcastle;

ystyr “cyflenwi” (“supply”) yw cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i berson sydd wedyn yn cyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac mae'n cynnwys llwyth ar gyfer ei werthu;

ystyr “deddfwriaeth clefydau” (“disease legislation”) yw unrhyw ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw pob rhywogaeth o ddofednod a fegir neu a gedwir mewn caethiwed ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta gan bobl, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill i'w bwyta gan bobl, ailstocio cyflenwadau o anifeiliaid hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y cadarnhawyd bod clefyd mewn mangre heintiedig neu mewn sefydliad neu ddyddiad yr heintiad cynharaf os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu dyddiad o'r fath;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3);

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad lle y mae cigydda a thrin unrhyw anifail neu ddofednyn yn digwydd;

ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, adeilad neu le a ddefnyddir mewn busnes, heblaw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran unrhyw fangre neu sefydliad, yw'r person sydd â gofal am y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw;

ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela; ac

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game handling establishment”) yw sefydliad lle y paratoir carcasau anifeiliaid hela gwyllt.

Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau

3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, “anifail dan gyfyngiadau” (“restricted animal”) yw anifail—

(a) sydd ar, mewn neu o—

(i) mangre dan amheuaeth;

(ii) sefydliad lle yr amheuir bod clefyd yno;

(iii) mangre heintiedig;

(iv) sefydliad lle y cadarnheir bod clefyd yno;

(v) ardal heintiedig;

(vi) parth gwarchod; neu

(vii) parth goruchwylio; a

(b) o rywogaeth a allai gael y clefyd y gosodwyd cyfyngiadau ynglŷn â hi o dan ddeddfwriaeth clefydau.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, “dofednod dan gyfyngiadau” (“restricted poultry”) yw dofednod sydd ar, mewn neu o unrhyw un o'r canlynol o dan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(4)—

(a) mangre dan amheuaeth;

(b) lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno;

(c) mangre heintiedig;

(ch) lladd-dy lle y cadarnheir bod clefyd yno;

(d) ardal heintiedig;

(dd) parth gwarchod; neu

(e) parth gwyliadwriaeth.

(3) “Mangre dan amheuaeth” (“suspect premises”) yw mangre lle y mae cyfyngiadau symud ar waith o dan ddeddfwriaeth clefydau oherwydd amheuir bod clefyd yno.

(4) “Mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle y cadarnhawyd bod clefyd yno o dan ddeddfwriaeth clefydau.

(5) “Ardal heintiedig” (“infected area”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(6) “Parth gwarchod” (“protection zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(7) “Parth goruchwylio” (“surveillance zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.

(8) “Cig dan gyfyngiadau” (“restricted meat”) yw cig a gynhyrchwyd o'r dyddiad perthnasol o anifail dan gyfyngiadau neu o ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth goruchwylio na chafodd ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth, ac mae'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.

Hysbysiadau

4.  O ran hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn—

(a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig; a

(b) ceir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

Dynodi mangreoedd, lladd-dai a sefydliadau trin anifeiliaid hela

5.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi unrhyw sefydliad neu fangre at ddibenion cigydda anifeiliaid neu ddofednod, neu dorri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin cig.

(2) O ran dynodi o dan y Rheoliadau hyn—

(a) rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b) caiff fod yn ddarostyngedig i amodau; ac

(c) ceir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad.

(3) Mae mangreoedd a sefydliadau a ddynodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon ar gyfer yr un dibenion ag y ceir eu dynodi o dan y Rheoliadau hyn yn fangreodd neu'n sefydliadau dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae “dynodedig” (“designated”) yn cyfeirio at fangreoedd a sefydliadau sy'n ddynodedig o dan y rheoliad hwn.

Cyfyngiadau ynghylch symudiadau o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

6.—(1) Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall, mae mesurau yn y Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran unrhyw beth a symudir o unrhyw fangreoedd, sefydliadau, ardaloedd neu barthau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 hefyd yn gymwys o ran symudiad o'r fath o unrhyw fangre, sefydliad, ardal neu barth cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ond dim ond os yw'r person y mae'r mesur yn gymwys iddo yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol bod y symud o fangre, sefydliad, ardal neu barth o'r fath.

(1)

O.S. 2005/2766. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [1]

(3)

1981, p. 22, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p. 42, O.S. 1992/3293, 2003/1734 a 2006/182. Back [3]

(4)

O.S. 2003/1079 (Cy.148). Back [4]