Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007, fel y'u diwygiwyd.

Mae'r Rheoliadau yn dirymu'r Rheoliadau 2007 hynny. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Mae'r newidiadau sylweddol a wnaed yn y Rheoliadau hyn (heblaw cyfraddau grantiau a benthyciadau) wedi'u nodi isod.

Mae'r gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd (a gyflwynwyd gan Reoliadau 2006) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn yn cael ei gadw (rheoliad 2(1)).

Mae myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —

  • grant at ffioedd (Rhan 4);

  • benthyciad at gyfraniad at ffioedd (rheoliad 20);

  • grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);

  • grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);

  • grant at deithio (rheoliadau 31 i 33);

  • grant addysg uwch (rheoliad 35); a

  • benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —

  • grantiau at ffioedd newydd (rheoliad 18);

  • benthyciadau at ffioedd (rheoliadau 21 a 22);

  • grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);

  • grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);

  • grant at deithio (rheoliadau 31 i 33);

  • grant cynhaliaeth (rheoliad 36);

  • grant cymorth arbennig (rheoliad 37); a

  • benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

I fod â hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr cymwys os yw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig felly y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Dim ond ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 64, 80, 93 ac Atodlen 2 y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ffioedd, ar ffurf grantiau ar gyfer ffioedd a benthyciadau at ffioedd. Gwnaed newidiadau er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ar gyrsiau hyblyg i ôl-raddedigion ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 i fod â hawl i gael cymorth ffioedd os yw'r cwrs hwnnw yn para am o leiaf chwe wythnos. Mae hyn yn golygu am y tro cyntaf bod cwrs dynodedig (un sy'n bodloni'r meini prawf yn Rheoliad 5) yn gallu bod yn gwrs sy'n para llai na blwyddyn academaidd, ar yr amod ei fod yn gwrs hyblyg ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw sy'n cynnwys grantiau teithio i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys. Diwygiwyd rheoliadau 31 a 32 er mwyn egluro'r mathau o gostau y mae grantiau teithio ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio dramor yn daladwy iddynt, a'r dull y cyfrifir swm y grant hwnnw.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw.

Mae Rhan 7 yn gosod darpariaethau cyffredinol ynghylch benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir cyfraniad gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu dynodedig o bell.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i gyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.