RHAN 12 continued
88.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—
(a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 80(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
(a) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(b) uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 83 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;
(c) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 83 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 24, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
(ch) os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.
(4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.
(5) Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—
(a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(6) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 80(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.
(9) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—
(a) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 82(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 66(1)(b);
(b) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 24.
(10) Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 66(1)(a) ac 82(1)(a) o ran —
(a) y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a
(b) y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;
beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 66(1)(a).
(11) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—
(a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(12) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (11)—
(a) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 83 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;
(b) caiff unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
(c) uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac
(ch) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 83 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 24 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 83 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.
(13) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—
(a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), mae gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (13) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(15) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.
(16) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (13) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—
(a) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 66(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 82(1)(b);
(b) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 24.
(17) Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (13), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 66(1)(a) a 82(1)(a) o ran—
(a) y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a
(b) y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;
beidio â bod yn uwch na uchafswm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 66(1)(a).
89.—(1) Caniateir i daliadau o'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(2) Os na bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, cânt wneud asesiad dros dro a thalu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn rhandaliadau.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar yr adegau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant at lyfrau, teithio neu wariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 83 cyn iddynt gael y datganiad o dan reoliad 86(2) i (6) oni bai bod eithriad yn gymwys.
(6) Mae eithriad yn gymwys—
(a) os yw grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 83 yn daladwy, ac os felly, caniateir i'r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn i'r datganiad ddod i law Gweinidogion Cymru;
(b) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddynt wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.
90.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y maent yn credu sy'n addas.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y maent yn credu eu bod yn briodol.
91.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol gwneud hynny.
(4) Dyma'r dulliau adennill —
(a) tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
(5) Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn tynnu allan o'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(6) Y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(7) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
(8) Dyma'r amgylchiadau—
(a) bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c) nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr derfynu.
(9) Dyma'r amgylchiadau—
(a) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b) bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
(10) Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.