RHAN 11 continued
78.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.
(4) Y dulliau o adennill yw—
(a) tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;
(b) cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.
(5) Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.
(6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.
(7) Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.
(8) Yr amgylchiadau yw—
(a) bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
(b) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c) nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn terfyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.
(9) Yr amgylchiadau yw—
(a) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b) bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.
(10) Pan fo gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.
79.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.
(2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig —
(a) os yw Gweinidogion Cymru wrth iddynt asesu cais y myfyriwr am gymorth yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—
(a) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser —
(i) bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu
(iii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person hwnnw neu beidio;
(b) os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor.
(4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar neu'n cael ei ryddhau o'r carchar.
(5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(a) cyn 25 Medi 1991, a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (8) neu (9).
(8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser dynodedig presennol; ac
(c) nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.
(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person —
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig; neu
(ii) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig heblaw'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol;
(b) bod statws y person fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs dynodedig presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.
(10) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(11) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(12) Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
(13) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82(1)(b) neu reoliad 83 os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(14) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth —
(a) o dan reoliad 82(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu
(b) o dan reoliad 82(1)(b) neu 83 os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
(15) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (16).
(16) Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (15) yw —
(a) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu
(c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.
(17) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(18) At ddibenion paragraff (17), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf —
(a) os yw'n radd (heblaw gradd anrhydedd) sydd wedi'i dyfarnu i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol at gwrs ei radd gyntaf ; a
(b) os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.
(19) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (21) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(20) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (21) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl (neu'r ddau) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(21) Y digwyddiadau yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(dd) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(e) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(ff) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(22) Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth ar gyfer—
(a) mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;
(c) cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig dysgu o bell;
(ch) cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig ôl-radd.
80.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 79—
(a) os yw'n gwrs a grybwyllir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;
(b) os yw'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd;
(c) os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae fel arfer ei angen i gwblhau cwrs amser-llawn cyfatebol;
(ch) os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(d) nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5; ac
(dd) nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 64.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4) At ddibenion paragraff (1) —
(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(72).
(5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
(a) ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs rhan-amser dan sylw;
(b) ystyr “cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr amser-llawn safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(c) “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
(i) ei fod wedi dechrau cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;
(ii) nad yw wedi'i esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; a
(iv) nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 79(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
81.—(1) Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 79.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 79, mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 87 neu 88; neu
(b) yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(8) Os Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 91.
(9) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—
(a) cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a
(b) ac eithrio o dan baragraff (5),
caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.
82.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw —
(a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol —
(i) y grant sylfaenol, a
(ii) y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
(b) grant nad yw'n fwy na £1,050 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.
os
PT yw nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;
FT yw—
os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;
os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall y byddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a) mae “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) i'w gyfrifo yn unol â rheoliad 80; ac
(b) mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo yn unol â rheoliad 80.
(4) Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw —
(a) £620 os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);
(b) £745 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);
(c) £930 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 86, mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn —
(a) os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais—
(i) o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor; neu
(ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i gael lwfans o dan drefniant a elwir y Fargen Newydd;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1) yn daladwy.
(b) os yw'r incwm perthnasol yn llai na £16,110, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1) yn daladwy;
(c) os yw'r incwm perthnasol yn £16,110, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(a);
(ch) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £16,110 ond yn llai na £24,295, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 82(1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
(d) os yw'r incwm perthnasol yn £24,295, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 82(1)(a) yw £50;
(dd) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £24,295 ond yn llai na £24,925, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 82(1)(a);
(e) os yw'r incwm perthnasol yn £24,925 neu fwy ond yn llai na £26,915, nid oes cymorth ar gael o dan reoliad 82(1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 82(1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(b) £1 am bob £2.00 gyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £24,925;
(f) os yw'r incwm perthnasol yn £26,915, nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 82(1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 82(1)(b) yw £50;
(ff) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £26,915, nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 82(1).
(6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 82(1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(a) un o'r symiau canlynol —
(a) £50 plws £1 arall am bob £15.74, £12.69 neu £9.86 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,110 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu
(b) os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 82(1)(a) yn daladwy).
(7) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(b) ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;
(c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(ch) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(d) ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(dd) yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(e) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (dd) yn cael ei drin fel partner —
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(f) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(ff) mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai —
(i) £2,000 mewn perthynas â'i bartner;
(ii) £2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a
(iii) £1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.
(9) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, cânt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.
(11) Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.
83.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo ynghylch ei fod yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) £10,000 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) £5,035 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—
(i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;
(ch) £1,260 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
84.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.
(2) Rhaid i'r canlynol fynd gyda'r cais—
(a) datganiad o dan reoliad 86(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a
(b) y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.
(3) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.
(4) Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—
(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad (79)(3) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.
(b) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu
(c) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.
85.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth i gynorthwyo at ffioedd i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
(2) Rhaid i'r cymorth a delir o dan baragraff (1) beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o—
(a) mwyafswm y cymorth a fyddai wedi bod yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys o dan reoliad 82(1)(a) pe bai wedi bod yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru; a
(b) mwyafswm y cymorth i gynorthwyo at ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy iddo ym marn Gweinidogion Cymru gan ddibynnu os yw'n bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban—
(i) yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o'r Ddeddf fel pe bai fel arfer yn preswylio yn Lloegr ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn Lloegr;
(ii) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 a 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth Myfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 pe bai fel arfer yn preswylio yng Ngogledd Iwerddon ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yng Ngogledd Iwerddon; neu
(iii) o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch yr Alban (73) pe bai fel arfer yn preswylio yn yr Alban ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn yr Alban.
86.—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda'r cais am gymorth.
(3) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd lenwi datganiad os na all roi'r cadarnhad sydd ei angen.
(4) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a) pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o'r cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”)yw—
(a) swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;
(b) pa mor ddwys yw'r astudio; ac
(c) nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—
(i) mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;
(ii) y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a) unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 80(1)(c);
(b) unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.
87.—(1) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw—
(a) os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;
(b) os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau dros drosglwyddo yw —
(a) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;
(b) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(c) ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 82(1)(b) neu reoliad 83 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(6) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 82(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 82.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27. Back [72]
Sefydlwyd y corff hwn o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch (yr Alban) 2005 (dsa 6). Back [73]