Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1270 (Cy.129)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008

Gwnaed

7 Mai 2008

Yn dod i rym

10 Mai 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 , 35(1), 87(2) a (5)(a) a 88(2) a (4)(a) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 10 Mai 2008.

Estyn diffiniad “anifail”, “dofednod” a “clefyd”

2.  At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn—

(a) estynnir diffiniad “anifail” (“animal”) i gynnwys unrhyw fath o famal ac eithrio dyn, ac unrhyw greadur pedwartroed nad yw'n famal;

(b) estynnir diffiniad “dofednod” (“poultry”) i gynnwys unrhyw rywogaeth o aderyn; ac

(c) estynnir diffiniad “clefyd” (“disease”) i gynnwys unrhyw glefyd anifeiliaid a dofednod a all gael ei achosi gan un neu ragor o bathogenau anifeiliaid penodedig.

Dehongli

3.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys dofednod;

ystyr “cludydd” (“carrier”) yw unrhyw greadur byw ac eithrio dyn a all gludo neu drosglwyddo pathogen anifail penodedig neu feinwe, meithriniad celloedd, hylif corff, ysgarthion, carcas, neu ran o garcas y cyfryw greadur y gellir trosglwyddo neu gludo pathogen anifail penodedig ganddo neu drwy ei gyfrwng;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le arall; ac

ystyr “pathogen anifail penodedig” (“specified animal pathogen”) yw pathogen anifail a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys—

(a)

pathogenau cyfan;

(b)

pathogenau a wanhawyd neu a addaswyd yn enetig drwy unrhyw gyfrwng; ac

(c)

unrhyw asid niwclëig sy'n deillio o bathogen anifail a restrir yn yr Atodlen honno a allai gynhyrchu'r pathogen hwnnw pan gâi ei gyflwyno i system fiolegol y mae'r asid niwclëig yn gallu dyblygu ynddo.

(2) Yn y Gorchymyn hwn nid yw “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd a benodwyd gan awdurdod lleol.

(3) Rhaid i drwydded neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

Gwaharddiadau mewn perthynas â phathogenau anifeiliaid penodedig

4.—(1) Ni chaiff neb feddu ar—

(a) unrhyw bathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; neu

(b) unrhyw gludydd y gwyr fod y cyfryw bathogen ynddo,

ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.

(2) Ni chaiff neb gyflwyno unrhyw bathogen anifail a bennir yn naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o'r Atodlen honno i unrhyw anifail yn fwriadol, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i berson hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith os yw'r person hwnnw—

(a) yn meddu ar unrhyw beth yn ei gylch y mae ganddo sail resymol dros amau bod pathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn bresennol, a

(b) heb drwydded ar gyfer y pathogen hwnnw.

Eithriadau

5.—(1) Nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cludo pathogen neu gludydd ac nad yw'n berchen ar y pathogen na'r cludydd hwnnw neu nad oes ganddo unrhyw hawliau ynddynt.

(2) Nid yw erthygl 4 yn gymwys o ran unrhyw bathogen na chludydd a geir mewn cynnyrch—

(a) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig fel cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu a awdurdodir i'w roi i anifail yn y Deyrnas Unedig;

(b) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad o dan Reoliadau Meddyginiaethau i'w Defnyddio gan Bobl (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994(2);

(c) a drwyddedwyd yn unol â darpariaethau adran 7(2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(3).

Pwerau arolygwyr

6.  Yn ychwanegol at y pwerau a nodir yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae gan arolygydd sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn y pwerau a nodir yn Atodlen 2.

Hysbysiadau gwella

7.—(1) Os yw arolygydd yn barnu bod person—

(a) yn cyflawni unrhyw weithgaredd sy'n torri un neu ragor o amodau trwydded a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn hwn, neu

(b) wedi torri un neu ragor o'r amodau hynny mewn amgylchiadau sy'n ei gwneud yn debygol y bydd y toramod yn parhau neu'n cael ei ailadrodd,

caiff yr arolygydd hwnnw gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella”) i'r person hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad gwella—

(a) pennu amodau'r drwydded a dorrwyd;

(b) esbonio'r rhesymau paham y mae'r arolygydd o'r farn honno; ac

(c) ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw unioni'r toramod neu'r materion sydd yn ei achosi, cyn pen y cyfnod a gaiff ei bennu yn yr hysbysiad.

(3) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch y mesurau i'w cymryd i unioni unrhyw doramod neu fater y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef; a chaniateir llunio'r cyfryw gyfarwyddiadau mewn dull sy'n rhoi dewis i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo rhwng ffyrdd gwahanol o unioni'r toramod neu'r mater.

Hysbysiadau gwahardd

8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw weithgareddau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Gorchymyn hwn.

(2) Os yw arolygydd yn barnu bod y gweithgareddau yn cynnwys neu y gallant gynnwys risg o niwed difrifol i anifeiliaid, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwahardd”) i'r person hwnnw.

(3) Rhaid i hysbysiad gwahardd—

(a) datgan bod yr arolygydd o'r farn honno;

(b) pennu'r materion sydd ym marn yr arolygydd yn achosi neu y gallant achosi risg o niwed difrifol i anifeiliaid; ac

(c) cyfarwyddo na chaniateir cyflawni'r gweithgareddau y mae a wnelo'r hysbysiad â hwy oni bai bod y materion a bennir yn yr hysbysiad wedi cael eu hunioni.

(4) Mae cyfarwyddyd a geir mewn hysbysiad gwahardd o dan is-baragraff (3)(c) yn effeithiol—

(a) ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b) os yw'r hysbysiad yn datgan hynny, ar unwaith.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella a gwahardd

9.—(1) Caiff person y mae hysbysiad gwella neu wahardd yn cael ei gyflwyno iddo apelio yn erbyn yr hysbysiad cyn pen 21 o ddiwrnodau i'r person a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i'r person penodedig ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.

(3) Yna caiff Gweinidogion Cymru naill ai ddiddymu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gyda neu heb addasiadau, a rhaid iddynt hysbysu'r apelydd gan roi'r rhesymau dros eu penderfyniad.

Trwyddedau

10.  Ni chaiff unrhyw berson dorri amod trwydded a osodir ar y person hwnnw.

Gorfodi

11.  Gorfodir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru.

Dirymiadau

12.  Dirymir y gorchmynion canlynol—

(a) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(4) wrth ei gymhwyso i Gymru; a

(b) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2006(5).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Mai 2008

(1)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(3)

1968 p. 67. Back [3]

(4)

O.S. 1998/463. Back [4]

(5)

O.S. 2006/2981 (Cy.272). Back [5]