Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1080 (Cy.114)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008

Gwnaed

14 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Ebrill 2008

Yn dod i rym

15 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir i'r cyfryw anifeiliaid(2).

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Ebrill 2008.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod sy'n ofynnol gan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(5) i orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

mae i “bwyd” yr ystyr a roddir i “food” yn Erthygl 2 o Reoliad 178/2002;

mae i “bwyd anifeiliaid” yr ystyr a roddir i “feed” yn Erthygl 3.4 o Reoliad 178/2002;

ystyr “cynnyrch penodedig” (“specified product”) yw unrhyw gynnyrch a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn sy'n tarddu o Tsieina neu a draddodwyd o Tsieina;

mae i “gweithredydd” yr ystyr a roddir i “operator” ym Mhenderfyniad y Comisiwn;

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2008/289/EC ar fesurau brys ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig heb awdurdod, sef “Bt 63” mewn cynhyrchion reis(6);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

mae i “rhoi gyntaf ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “first placing on the market” ym Mhenderfyniad y Comisiwn; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) mewn perthynas ag awdurdod bwyd anifeiliaid neu ag awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (p'un ai yw'n un o swyddogion yr awdurdod ai peidio) a awdurdodir ganddo yn ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu haseinio—

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (7), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(8), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.

Cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad

3.—(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig gyntaf ar y farchnad oni bai—

(a) bod yr amodau a bennir ym mharagraffau (1) a (3) a'r ail a'r drydedd frawddeg o baragraff (2) o Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn yn cael eu cydymffurfio â hwy mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; a

(b) bod trefniadau wedi cael eu gwneud i sicrhau cydymffurfiaeth â'r amod a bennir yn y frawddeg gyntaf o baragraff (2) o Erthygl 2 o'r Penderfyniad hwnnw mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.

(2) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gwaharddiad ym mharagraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu i'r ddau.

Hysbysu am ganlyniadau cadarnhaol

4.—(1) Bydd gweithredydd sy'n dod yn ymwybodol o ganlyniad cadarnhaol o brawf am bresenoldeb y reis a addaswyd yn enetig, sef “Bt 63” mewn cynnyrch penodedig sydd o dan ei reolaeth yn hysbysu'r Asiantaeth am y canlyniad hwnnw ar unwaith.

(2) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis neu i'r ddau.

Gorfodi

5.—(1) Dyletswydd pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

(2) Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal mewn perthynas â bwyd.

(3) At ddibenion galluogi'r awdurdod bwyd anifeiliaid i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (1) a'r awdurdod bwyd i arfer ei ddyletswydd o dan baragraff (2), bydd un o swyddogion awdurdodedig yr awdurdod dan sylw yn sicrhau bod y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yn cael eu cadw.

(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn —

(a) Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i lwythi o gynhyrchion penodedig gael eu rhoi gyntaf ar y farchnad odanynt);

(b) y frawddeg gyntaf o Erthygl 3 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â mesurau rheoli sy'n ymwneud â chynhyrchion penodedig a gyflwynir i'w mewnforio neu sydd eisoes ar y farchnad); ac

(c) Erthygl 4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â llwythi halogedig).

(5) Mae pob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd i roi'r cymorth a'r wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Asiantaeth yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

6.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(9), gyda'r addasiad y mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(2) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, yn is-adrannau (2)(a) a (3)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “food” yn gyfeiriadau at fwyd anifeiliaid neu fwyd ac yn is-adran (4)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn gyfeiriadau at “rhoi gyntaf ar y farchnad”;

(c) adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad yn is-adran (1) y bernir bod y cyfeiriad at “an enforcement authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd, y bernir bod y cyfeiriadau at “the authority’s area” yn gyfeiriadau at ardal yr awdurdod ac y bernir bod cyfeiriad at “a food authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd;

(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(10), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e) adran 35(2) a (3)(11) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(12); ac

(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “food authority” yn gyfeiriadau at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

14 Ebrill 2008

(2)

O.S. 2005/1971. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]

(5)

1970 p. 40. Back [5]

(6)

OJ Rhif L96, 9.4.2008, t.29. Back [6]

(7)

1984 p.22. Back [7]

(8)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [8]

(9)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S.2004/3279. Back [9]

(10)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. Back [10]

(11)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [11]

(12)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [12]