Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1064 (Cy.113)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

9 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Ebrill 2008

Yn dod i rym

2 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran y polisi amaethyddol cyffredin.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan bwerau a roddir gan yr adran honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Diwygio) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Mai 2008.

Diwygiadau

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Sootechegol 1992(3) fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 5, ychwaneger —

Collection, processing and storage of semen

6.—(1) A recognised organisation shall ensure that semen referred to in Article 2 of the 1987 Directive which is intended for intra-Community trade —

(a) is collected and processed at an EC collection centre; and

(b) stored at an EC storage centre.

(2) A recognised organisation which fails to comply with paragraph (1) may have its recognition withdrawn by the Welsh Ministers by notice in writing at any time.

(3) In this regulation —

“the 1987 Directive” means Council Directive 87/328/EEC(4) on the acceptance for breeding purposes of pure-bred breeding animals of the bovine species; and

“EC collection centre” and “EC storage centre” have the meanings given in the Bovine Semen (Wales) Regulations 2008 (5)..

(3) Yn lle Rhan V o Atodlen 3, rhodder—

PART V CRITERIA FOR ACCEPTANCE FOR BREEDING PURPOSES

Recognised organisations shall accept for breeding purposes bovines, and use ova and embryos, which satisfy the criteria specified in Council Directive 87/328/EEC on the acceptance for breeding purposes of pure bred breeding animals of the bovine species.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Ebrill 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Safonau Sootechnegol 1992, O.S. 1992/2370 (“Rheoliadau 1992”).

Mae'r diwygiadau'n rhoi effaith i'r diwygiadau i Gyfarwyddeb y Cyngor 87/328/EEC ar dderbyn, at ddibenion bridio, anifeiliaid bridio o frid pur o'r rhywogaeth fuchol (OJ 1 167, 26.6.1987, t. 54) a wnaed gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/24/EC o ran defnyddio ofa ac embryonau a chanolfannau storio ar gyfer semen o anifeiliaid bridio o frid pur o'r rhywogaeth fuchol (OJ L78, 24.3.2005, t.43).

Mae rheoliad newydd 6 o Reoliadau 1992, a ychwanegir gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, yn gosod rhwymedigaethau ar gyrff cydnabyddedig o ran casglu, prosesu a storio semen buchol. (Caiff y term “recognised organisation” ei ddiffinio yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1992.)

Diwygir Rhan V o Atodlen 3 i Rheoliadau 1992 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cydnabyddedig dderbyn, at ddibenion bridio, ofa ac embryonau buchol.

Ni chafodd asesiad effaith rheoliadol ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

S.I. 2005/2766. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [1]

(3)

O.S. 1992/2370. Back [3]

(4)

OJ Rhif L167, 26.6.87, t.54, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/24/EEC (OJ Rhif L 78, 24.3.2005, t. 43). Back [4]

(5)

O.S. 2008/1040 (W.110). Back [5]