Offerynnau Statudol
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
DIWYDIANNAU DA BYW
Gwnaed
7 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Ebrill 2008
Yn dod i rym
30 Ebrill 2008
Trwyddedu canolfannau semen buchol a chymeradwyo anifeiliaid buchol
Dull gweithredu canolfan semen buchol a chasglu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chyda chymeradwyaeth y Trysorlys; a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i gyfeiriadau at offerynnau y Gymuned Ewropeaidd (CE) y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
1984 p. 40; diwygiwyd adran 10 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1993 (p.50) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “appropriate Minister” i'r graddau y maent yn rhinwedd o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [2]
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51). Back [3]