Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 940 (Cy.100)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Diddymu) 2008

Gwnaed

28 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a Chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG

2.  Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Sefydlu) 1996(3), ac yn unol â hynny dirymir y Gorchymyn hwnnw.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg ar 1 Ebrill 2008.

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. Back [2]

(3)

O.S. 1996/259. Back [3]