Offerynnau Statudol

2008 Rhif 935 (Cy.95)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

28 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 April 2008;

ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992;

ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b) bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3.  Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;

(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4.  Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2008

Erthygl 3(b)

ATODLEN 1

Eiddo Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys)
Ysbyty
Ysbyty Aberaeron Rhydd-ddaliad (WA767824)
Ysbyty Cyffredinol Bronglais (gan gynnwys swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth)

Rhydd-ddaliad (WA791292)

Rhydd-ddaliad (WA750253)

Rhydd-ddaliad (WA751368)

Rhydd-ddaliad (WA556447)

Rhydd-ddaliad (WA763771)

Rhydd-ddaliad (WA763773)

Rhydd-ddaliad (WA784029)

Rhydd-ddaliad (WA816231)

Rhydd-ddaliad (CYM31161)

Ysbyty Aberteifi a'r Cylch Rhydd-ddaliad (WA832737)
Ysbyty Tregaron Rhydd-ddaliad (WA825649)
Tir gerddi y tu ôl i'r Bryn Rhydd-ddaliad (CYM241645)
Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Aberteifi Rhydd-ddaliad (WA788880)
Clinigau
Clinig Llanbedr Pont Steffan Rhydd-ddaliad (WA830020)
Clinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth Rhydd-ddaliad (WA825763)
Amrywiol
Wern, Ffordd Caradoc, Aberystwyth Rhydd-ddaliad (WA474814)
2, Plas Danycoed, Aberystwyth Lesddaliad
4, Plas Danycoed, Aberystwyth Lesddaliad
46, Danycoed, Aberystwyth Lesddaliad
Swyddfeydd Pantyfedwen , 9 Stryd y Farchnad, Aberystwyth Lesddaliad

Erthygl 3(c)

ATODLEN 2

Cronfa Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru (gan gynnwys pob is-elusen) — Rhif elusen 1052231.

(1)

2006. p.42. Back [1]

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43. Back [2]