Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo”” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth”” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999(3);
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” ( (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn yr Atodlen.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
| Eiddo | Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys) |
|---|---|
| Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe | |
| Ysbyty | |
| Cefn-coed | Rhydd-ddaliad (WA787048) |
| Clydach | Rhydd-ddaliad (WA788486) |
| Fairwood | Rhydd-ddaliad (WA702267) |
| Y Garn Goch | Rhydd-ddaliad (WA88518) |
| Gelli-nudd | Rhydd-ddaliad (WA772142) |
| Gorseinon | Rhydd-ddaliad (WA753877) |
| Hill House | Rhydd-ddaliad (WA702266) |
| Treforys | Rhydd-ddaliad (WA772157) |
| Singleton | Rhydd-ddaliad (WA702265) |
| Singleton i'r gorllewin o Lôn Sgeti | Rhydd-ddaliad (WA293221) |
| Canolfannau Iechyd | |
| Clydach | Rhydd-ddaliad (WA788486) |
| Pen-clawdd | Rhydd-ddaliad (WA787081) |
| Clinigau | |
| Bôn-y-maen | Rhydd-ddaliad (WA787062) |
| Clinig Canolog | Rhydd-ddaliad (WA245563) |
| Cwmbwrla | Rhydd-ddaliad (WA787106) |
| Gorseinon | Rhydd-ddaliad (WA788494) |
| Treforys | Rhydd-ddaliad (WA772157) |
| Murton | Rhydd-ddaliad (WA787094) |
| Norton Villa | Lesddaliad (WA870392) |
| Pontarddulais | Rhydd-ddaliad (WA787066) |
| Iechyd Meddwl | |
| Canolfan y Berllan, Abertawe | Rhydd-ddaliad (WA517503) |
| Tŷ Einon, Gorseinon | Rhydd-ddaliad (WA438440) |
| Westfa a Swyddfeydd, Abertawe | Rhydd-ddaliad (WA790049) |
| Amrywiol | |
| Clos George Morgan plotiau 1-47, Ysbyty Treforys | Rhydd-ddaliad (wedi'i gynnwys yn 'Treforys' uchod) |
| Fforest Industries, Heol Caerfyrddin, Abertawe | Lesddaliad (WA647208) |
| Strom Team, Heol Walter, Abertawe | Lesddaliad (CYM256849) |
| Canolfan Phoenix, Uned 10, Townhill Abertawe | Lesddaliad |
| Canolfan Arc, Broughton Avenue, Abertawe | Lesddaliad |
| Canolfan Newid, Ffordd Caernarfon, Abertawe | Lesddaliad |
| Courtney Street, Manselton, Abertawe | Lesddaliad (CYM276439) |
| Canolfan Oldway 7fed Llawr, Abertawe | Lesddaliad (CYM245479) |
| 695 Heol Llangyfelach, Abertawe | Lesddaliad (CYM256849) |
| Golchdy Llansamlet | Rhydd-ddaliad (WA54254) |
2006. p.42. Back [1]
Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43. Back [2]
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (1999) ar 4 Ionawr 1999 gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (1999) (Sefydlu) 1998 (O.S. 1998/3315) a newidiodd ei enw i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe ar 17 Mai 1999 drwy Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (1999) (Newid Enw) 1999 (O.S. 1999/1321). Back [3]