Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg a sefydlwyd ar 19 Chwefror 1996;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a berir gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) Y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) Eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c) Eiddo ymddiriedol elusennol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
| Eiddo | Deiliadaeth | Cofrestr Tir |
|---|---|---|
| Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg | ||
| Ysbyty | ||
| Tywysog Charles | Rhydd-ddaliad | WA794505 |
| Cyffredinol Aberdâr | Rhydd-ddaliad | WA794503 |
| Santes Tudful | Rhydd-ddaliad | WA794584 |
| Aberpennar | Rhydd-ddaliad | WA794490 |
| Clinigau/ Canolfannau Iechyd Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl | ||
| Canolfan Iechyd Abercynon, Ffordd Ynysmeurig, Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4SU | Lesddaliad | |
| Aberdâr | Rhydd-ddaliad | WA794527 |
| Aber-fan | Rhydd-ddaliad | WA794484 WA794534484 |
| Hirwaun | Rhydd-ddaliad | WA707946 |
| Hollies | Rhydd-ddaliad | WA794547 |
| Tŷ Campsie, Merthyr | Rhydd-ddaliad | WA794534 |
| Seymour Berry | Rhydd-ddaliad | WA794517 |
| Treharris | Rhydd-ddaliad | WA794595 |
| Arall | ||
| Uned 7A, Ystâd Ddiwydiannol Cyfarthfa, CF47 8PE | Lesddaliad | |
Erthygl 3(c)
Cronfa Elussennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg (gan gynnwyws pob is-elusen) —Rhif 1060880.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf o 1 Ebrill 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf ar 1 Ebrill 2008.